Y canwr Iwan Huws ar ei ffordd adref o'r ysbyty
Mae'r canwr a'r gitarydd Iwan Huws ar ei ffordd adref o'r ysbyty wedi iddo gael ei daro'n wael tra'n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ganol mis Gorffennaf.
Yn brif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog, mae'r band wedi gohirio'u holl berfformiadau dros y misoedd nesaf.
Ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, mae gwraig Iwan Huws, y gantores a'r cyflwynydd Georgia Ruth wedi diolch i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth am eu gofal.
"Mae Iws yn dod adre heddiw! Methu diolch ddigon i holl staff Bronglais am eu gofal a'u gwaith trylwyr dros y 10 diwrnod dwetha," meddai.
Mae'n nodi hefyd na fydd hi'n chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn ogystal â Cwps Aber, Green Man ac Ara Deg.
"Mor sori ond gobeithio gallu dod nôl i chwarae nhw eto yn y dyfodol," meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/georgiaruth/status/1817834453063864524
Ni fydd Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gigs Cymdeithas yr Iaith nac yn Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Wrth gyhoeddi hynny bythefnos yn ôl, ychwanegodd y band eu bod yn diolch i bawb am yr holl negeseuon a chydymdeimlad
Ym mis Ebrill, fe adroddodd Newyddion S4C hanes Iwan Huws yn dychwelyd i’r byd cerddoriaeth wedi seibiant ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth ar y galon.