Awyren fechan wedi disgyn mewn cae ym Mhowys
29/12/2025
Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin fod dyn wedi ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl i awyren fechan ddisgyn mewn cae yn Nhalgarth, Powys.
Cafodd criwiau o Dalgarth a Chrucywel eu galw i'r digwyddiad am 11:38 fore Sadwrn, 27 Rhagfyr.
Yn ôl y gwasanaeth tân, bu'n rhaid i'r criw sicrhau fod yr awyren mewn cyflwr diogel, a chafodd y peilot ei gludo oddi yno.
Roedd y gwaith yn heriol am fod tanwydd yn yr awyren, yn ôl y gwasanaeth tân.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys a'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn bresennol.

