
Canwr Cowbois Rhos Botwnnog yn creu cerddoriaeth eto wedi llawdriniaeth ar y galon
Mae prif leisydd band Cowbois Rhos Botwnnog yn dweud ei fod yn barod i ddychwelyd i’r byd cerddoriaeth wedi seibiant ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth ar y galon.
Ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth ar y galon flwyddyn a hanner yn ôl, fe aeth Iwan Huws trwy gyfnod o fethu ysgrifennu na ddarllen oherwydd rhyw sgil effaith o’r anasthetig,” meddai.
Ond roedd y cyfnod wedi’r llawdriniaeth wedi rhoi cyfle iddo arbrofi gyda’i greadigrwydd, ag yntau’n teimlo fel ei fod yn “gorfod creu rhywbeth.”
Bydd y cerddor o Ben Llŷn yn cyflwyno pennod olaf y gyfres Curadur ar S4C nos Wener, gan drafod yr heriau creadigol mae ef wedi wynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mi gesh i gyfnod lle nad o’n i’n gallu sgwennu na darllen, mi o’dd y geiria a’r llythrennau yn nofio ar y dudalen.
“Felly es i drwy bwl o wneud llunia’ ac o’n i’n gneud tri neu bedwar bob diwrnod, dyna’r unig beth oeddwn i’n gwneud bron... achos doedd genna i ddim allbwn creadigol arall."

'Gorfod creu'
Wedi iddo ddod i’r arfer â rhannu ei waith gyda chynulleidfa, fe benderfynodd Iwan Huws i gyhoeddi ei waith celf ar-lein hefyd.
“Oedd o’n amlwg o sbïo yn ôl mod i’n gorod creu rhwbath... ond goro’ creu rhwbath a’i ddangos o i gynulleidfa.
“Yr un peth efo miwsig. Felly mae beth dwi’n wneud yn gwbwl ddibynnol ar y clustiau sy’n gwrando,” esboniodd.
Mae prif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog bellach yn awyddus i ryddhau cerddoriaeth newydd cyn gynted â phosib.
“Ers cael y llawdriniaeth dwi’n teimlo... bo’ fi angan sgwennu cymaint a dwi’n gallu.
“Mi ddoth y record ddwytha at ei gilydd yn reit handi… dwi di dechrau sgwennu’r nesaf yn barod a dwi eisiau ei chael hi’n barod mor fuan ag y galla’ i,” meddai.
Yn ystod pennod olaf Curadur, fe fydd Iwan hefyd yn sgwrsio â Linda Griffiths a’i brawd Roy o’r band gwerin Plethyn, yn ogystal â’r delynores eiconig Llio Rhydderch, a Dafydd Owain o’r bandiau Eitha Tal Franco, Jen Jeniro a Palenco.
Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu am 21.00 nos Wener ar S4C, ac ar gael i’w gwylio ar y cyd â phenodau eraill y gyfres ar S4C Clic ac iPlayer.