Newyddion S4C

'Angen mynd yn syth': Aelodau o gabinet Vaughan Gething yn ymddiswyddo gan alw arno i fynd

16/07/2024
Vaughan Gething

Mae pedwar aelod o gabinet Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ymddiswyddo, gan alw ar Brif Weinidog Cymru i fynd.

Dywedodd Mick Antoniw, Jeremy Miles, Julie James a Lesley Griffiths eu bod nhw galw ar Vaughan Gething i "gamu i lawr yn syth".

Mewn llythyr at y Prif Weinidog Vaughan Gething, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mr Antoniw, sy'n Aelod o'r Senedd dros Bontypridd: "Dros yr wythnos diwethaf rydym ni wedi cael nifer o sgyrsiau am yr heriau rydych chi wedi wynebu fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru.

"Mae'n rhaid i mi eich cynghori nad ydw i'n teimlo y gallwch chi barhau fel Prif Weinidog."

“Mae Cymru angen llywodraeth hyderus a sefydlog. Dydw i ddim yn credu y gallwch chi roi hynny.

"Rydych chi wedi colli pleidlais o hyder yn y Senedd. Mae hynny yn rhywbeth dwi’n ystyried o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr.

"Rydym ni gyd yma i wneud y gorau ar gyfer ein gwlad. Dwi’n teimlo bellach bod angen i chi roi y wlad gyntaf ac i ymddiswyddo fel Prif Weinidog a chaniatáu un newydd ac arweinydd newydd i’r blaid Lafur.”  

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi a'r Iaith Gymraeg, mewn llythyr hefyd i Mr Gething "allwn ni ddim parhau fel hyn." 

"Mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf, gan gynnwys colli’r bleidlais o hyder yn y Senedd, wedi bod yn boenus iawn.

“Dwi’n siwr fod y cyfnod wedi cael effaith arnoch chi a’ch teulu, mae’n sicr wedi ar grŵp Llafur y Senedd ac i nifer yn Llafur Cymru. 

"Ni allwn ni barhau fel hyn. Mae’n rhaid i ni ddechrau gwneud yn iawn am y niwed sydd wedi ei achosi ar unwaith, a dwi wedi dod i’r casgliad yn anffodus na all hyn ddigwydd o dan eich arweinyddiaeth.

“Dydw i ddim yn gallu gweld ffordd ymlaen i ni fyddai’n ein caniatáu i barhau â’r swydd yr ydym ni wedi cael ein hethol i wneud, heb eich bod chi’n camu lawr.

“Dwi’n dweud hyn gyda thristwch. Mae eich arweinyddiaeth wedi nodi moment hanesyddol i Gymru, y DU ac Ewrop, ac rydym ni fel plaid yn falch iawn o hyn, ac mi fydd hynny yn parhau."

Dywedodd Lesley Griffiths y byddai’n ymddiswyddo “â chalon drom iawn”.

“Ddoe buom yn trafod fy mhryderon am amgylchiadau rhai rhoddion oeddech chi wedi eu cael; canlyniad y bleidlais o ddiffyg hyder; a diswyddo cydweithiwr gweinidogol am ollwng gwybodaeth i'r wasg heb ymchwiliad ffurfiol.

“Mae wedi peri gofid, o safbwyntiau personol a phroffesiynol, i weld yr effaith negyddol y mae hyn oll wedi’i chael ar berthnasoedd rhwng cydweithwyr hirsefydlog ac, mewn llawer o achosion, ffrindiau agos.

“Mae sawl perthynas wedi torri a bydd angen ewyllys da ac arweinyddiaeth gref i’w hatgyweirio. Mae’r digwyddiadau anffodus a hynod drist hyn wedi cael effaith sylweddol ar ein gallu i barhau i gyflawni dros bobl Cymru.”

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Flaenau Gwent, Alun Davies, y byddai yr aelodau o'r cabinet sydd wedi ymddiswyddo yn "gweld llawer o gefnogaeth ar y menciau cefn".

Ymateb

Wrth ymateb dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies ei fod yn "ddiwrnod o gywilydd i Lafur". 

"Ond mae gweinidogion fel Jeremy Miles, a wasanaethodd yng nghabinet Gething, ar fai hefyd. Bydd Cymru yn cofio."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae Vaughan Gething wedi arwain llywodraeth o anhrefn.

"Ers yn rhy hir mae wedi gadael i'w les ei hun ddod o flaen buddiannau pobl Cymru. Rhaid iddo ymddiswyddo."

Trafferthion Vaughan Gething

Cafodd yn cyn weinidog economaidd 50 oed ei ethol yn Brif Weinidog yn unfrydol gan aelodau ei blaid ei hun yn y Senedd ym mis Mawrth.

Daeth ei etholiad ffurfiol yn y Senedd yn dilyn ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur gan aelodau’r blaid a chyrff cysylltiol. 

Curodd y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles, mewn gornest agos o 51.7% i 48.3% o’r pleidleisiau.

Ef yw arweinydd croenddu cyntaf un o genhedloedd y Deyrnas Unedig a'r cyntaf yn Ewrop yn yr oes fodern.

Mae Mr Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Cafodd Mr Gething hefyd ei feirniadu am ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi honiadau bod gwybodaeth wedi ei ryddhau i'r wasg, a hynny heb ddangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad.

Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad ac wythnos yma, fe wnaeth drafod ei diswyddiad a’r sgil effeithiau ar ei hiechyd meddwl, ar lawr y Senedd.

Mae Mr Gething wedi dweud yn ddiweddarach nad oedd erioed wedi honni bod Ms Blythyn wedi rhyddhau gwybodaeth yn uniongyrchol i’r wasg, gan ddweud ei fod yn glir bod y wybodaeth wedi dod yn uniongyrchol o ffôn Hannah Blythyn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.