Newyddion S4C

Donald Trump yn cyhoeddi pwy fydd ei ddirprwy yn y ras arlywyddol

15/07/2024
trump.png

Mae Donald Trump wedi dewis JD Vance ar gyfer ei enwebiad dirprwy arlywydd. 

Wrth gyhoeddi'r cyhoeddiad ar blatfform Truth Social, dywedodd Mr Trump: "Ar ôl ystyried a meddwl yn hir, ac ystyried talentau arbennig llawer o rai eraill, rwyf wedi penderfynu mai’r person sydd fwyaf addas i gymryd swydd Dirprwy arlywydd yr Unol Daleithiau ydy JD Vance o dalaith Ohio."

Yn 39 oed, mae Mr Vance yn gefnogwr o Mr Trump, ac wedi ei amddiffyn yn gyson ar y teledu. 

Daw hyn wedi i farnwr yn Florida ollwng achos troseddol yn erbyn Mr Trump, lle roedd wedi ei gyhuddo o gadw dogfennau swyddogol yn anghyfreithlon. 

Y llynedd, plediodd y cyn arlywydd yn ddi-euog mewn llys ffederal i 37 o gyhuddiadau troseddol yn ei erbyn yn ymwneud â chadw dogfennau swyddogol a chyfrinachol yn anghyfreithlon wedi iddo adael y Tŷ Gwyn.

Trump oedd y cyn-arlywydd cyntaf i wynebu cyhuddiadau o'r fath.

Cafodd Donald Trump ei gludo i ysbyty gydag anafiadau wedi i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania ddydd Sadwrn.

Roedd lluniau teledu o'r digwyddiad yn dangos Mr Trump yn disgyn i'r llawr cyn cael ei amgylchynu gan swyddogion o'r gwasanaethau cudd.

Fe gododd ar ei draed ar ôl tua munud gyda gwaed ar ei glust dde a'i foch, cyn gweiddi 'Fight! Fight!' at ei gefnogwyr yn y dorf.

Cafodd yr ymosodwr ei saethu'n farw. Roedd Thomas Matthew Crooks yn 20 oed.

Roedd Crooks yn dod o Barc Bethel, Pennsylvania, tua awr o'r fan lle cafodd y rali ei chynnal.

Roedd yn Weriniaethwr cofrestredig, yn ôl cofnodion pleidleiswyr y wladwriaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.