Newyddion S4C

Donald Trump wedi ei anafu ar ôl i saethwr geisio ei ladd mewn rali

14/07/2024
Trump

Cafodd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ei anafu wedi i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania.

Mae lluniau teledu o'r digwyddiad yn dangos Mr Trump yn disgyn i'r llawr cyn cael ei amgylchynu gan swyddogion o'r gwasanaethau cudd.

Cododd ar ei draed ar ôl tua munud gyda gwaed ar ei glust dde a'i foch, cyn gweiddi 'Fight! Fight!' ar ei gefnogwyr yn y dorf.

Mae'r dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi ei saethu'n farw ac mae wedi ei enwi gan yr FBI fel Thomas Matthew Crooks, oedd yn 20 oed.

Cafodd dyn yn y dorf ei saethu'n farw yn yr ymosodiad am mae dau ddyn arall mewn cyflwr critigol.

Mae Donald Trump bellach wedi gadael yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad ac mae wedi dychwelyd i'w gartref yn New Jersey.

Mewn datganiad, dywedodd yr FBI: “Mae’r FBI wedi adnabod Thomas Matthew Crooks, 20, o Bethel Park, Pennsylvania, fel yr unigolyn a oedd yn gysylltiedig ag ymgais llofruddio’r cyn-arlywydd Donald Trump ar Orffennaf 13, yn Butler, Pennsylvania.

“Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad gweithredol a pharhaus, ac anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth gyda’r ymchwiliad i gyflwyno lluniau neu fideos ar-lein yn FBI.gov/butler neu ffonio 1-800-CALL-FBI.”

Mewn datganiad, dywedodd arlywydd yr UDA Joe Biden: "Rwyf wedi cael fy mriffio ar y saethu yn rali Donald Trump yn Pennsylvania. 

"Rwy’n ddiolchgar i glywed ei fod yn ddiogel ac yn gwneud yn dda. Rwy’n gweddïo drosto ef a’i deulu a thros bawb a oedd yn y rali, wrth i ni aros am ragor o wybodaeth.

" Mae Jill a minnau'n ddiolchgar i'r Gwasanaeth Cudd am ei gael i ddiogelwch. Nid oes lle i'r math hwn o drais yn America. Rhaid inni uno fel un genedl i’w gondemnio."

Mae'r digwyddiad wedi ei gondemnio a chydymdeimladau wedi eu hanfon at Mr Trump gan wleidyddion yn yr UDA ac yn rhyngwladol.

Mewn datganiad fore dydd Sul, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer: “Mae’r golygfeydd syfrdanol yn rali’r Arlywydd Trump wedi fy nychryn ac rydym yn anfon ein dymuniadau gorau ato ef a’i deulu.

“Nid oes gan drais gwleidyddol o unrhyw fath le yn ein cymdeithasau ac mae fy meddyliau gyda holl ddioddefwyr yr ymosodiad hwn.”

Ychwanegodd Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, ei fod wedi ei adael yn teimlo'n “sâl” gan y saethu.

“Ni ellir gorbwysleisio – nid yw trais gwleidyddol byth yn dderbyniol,” meddai. 

"Mae fy meddyliau gyda’r cyn-Arlywydd Trump, y rhai yn y digwyddiad, a phob Americanwr.”

Mewn neges ar X, dywedodd y cyn-brif weinidog Liz Truss: “Gweddïwch dros yr Arlywydd Trump” tra bod y cyn-Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol Suella Braveman wedi disgrifio y digwyddiadau yn Pennsylvania fel “golygfeydd echrydus”.

Llun: AP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.