Aelodau Seneddol San Steffan yn cychwyn ar eu gwaith
Bydd Aelodau Seneddol San Steffan yn cychwyn ar eu gwaith ddydd Mawrth ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
Ar ôl mwyafrif enfawr y Blaid Lafur yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf bydd 335 AS newydd yn cynrychioli'r DU yn San Steffan.
Bydd 32 ohonynt yn cynrychioli etholaethau yng Nghymru ac mae 13 o wynebau newydd yn eu plith.
Roedd nifer ohonynt wedi cyrraedd Llundain ddydd Llun.
Mae gwaith y Prif Weinidog Syr Keir Starmer eisoes wedi dechrau wedi iddo gwblhau taith i'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru ddoe i gwrdd ag arweinwyr y gwledydd hynny.
Ddydd Mawrth bydd yn teithio i Washington DC yn America ar gyfer uwch-gynhadledd flynyddol NATO.
Mi fydd yn cwrdd ag arweinwyr y byd ac yn cael trafodaeth gyda Joe Biden yn y Tŷ Gwyn ddydd Mercher.