Newyddion S4C

Keir Starmer yn cwrdd â Vaughan Gething wrth iddo ymweld â Chymru

08/07/2024

Keir Starmer yn cwrdd â Vaughan Gething wrth iddo ymweld â Chymru

Mae Syr Keir Starmer wedi cyfarfod â Vaughan Gething wrth i Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig ymweld â Chymru ar ddiwedd ei daith i'r gwledydd datganoledig.

Ar ôl teithio i'r Senedd ym Mae Caerdydd o Ogledd Iwerddon, cafodd gyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens.

Cyrhaeddodd y Senedd ar ôl addo ail strwythuro'r berthynas rhwng y Llywodraeth yn San Steffan a'r gwledydd datganoledig .

Mae Syr Keir yn dechrau ar ei waith yng nghanol pryderon mawr am golli 2,800 o swyddi yn y diwydiant dur yng nghanolfannau Tata Steel ym Mhort Talbot a Llanwern.  

Mae'r ddwy lywodraeth Lafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn ceisio annog cwmni dur Tata i beidio bwrw ymlaen â diswyddiadau gorfodol.  

Cyn ei daith, dywedodd Syr Keir Starmer y byddai'n cyd-weithio'n agos â Llywodraeth Cymru a Vaughan Gething.

"Bydd fy Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth i bobl a chymunedau Cymru," meddai.  

"Mae hynny'n golygu troi'r dudalen ar flynyddoedd o gyfnod caled yn economaidd, tuag at ffyniant torfol gwirioneddol i bobl sy'n gweithio, fel eu bod yn gallu gweld a theimlo gwir newid yn eu bywydau."

Fe wnaeth Syr Keir Starmer ymgyrchu gyda Phrif Weinidog Cymru yn ystod yr Etholiad Cyffredinol, a hynny wedi i Mr Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder ynddo gan aelodau'r Senedd fis Mehefin.

Daw wedi i Mr Gething dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd â'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething yn mynnu nad yw wedi torri unrhyw reolau.

Daeth galwadau pellach gan y gwrthbleidiau yn y Senedd ar i Mr Gething ymddiswyddo yn dilyn y bleidlais o ddiffyg hyder ynddo.

Dydd Sul, dywedodd y cyn weinidog Llafur, Dr Kim Howells, oedd yn aelod seneddol dros Bontypridd, fod peryg gwirioneddol y gallai Lafur golli etholiad yn y Senedd dan arweinyddiaeth Vaughan Gething

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Gymru, Jo Stevens, wedi dweud bod gan Mr Gething ei "chefnogaeth lwyr".

Cyn ymweliad Syr Keir Starmer â Chymru, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth gais am gyfarfod gydag e yng nghwmni pedwar aelod seneddol Plaid Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.