Newyddion S4C

Peryg i Lafur golli etholiad y Senedd dan Vaughan Gething meddai cyn weinidog Llafur

07/07/2024
Vaughan Gething

Mae cyn weinidog Llafur wedi dweud bod peryg gwirioneddol y gallai Lafur golli etholiad yn y Senedd dan arweinyddiaeth Vaughan Gething.

Dywedodd Dr Kim Howells, cyn AS Pontypridd a oedd yn weinidog yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, fod yna “ddadrithiad” gyda’r Blaid Lafur yng Nghymru.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales dywedodd bod angen newid arweinydd Llafur Cymru “yn gynt yn hytrach na’n hwyrach”.

Er iddyn nhw ennill naw sedd oddi ar y Ceidwadwyr Cymreig yn yr Etholiad Cyffredinol fe syrthiodd pleidlais Llafur Cymru 3.9%.

Fe gododd pleidlais Plaid Cymru 4.9% ac fe ddaeth Reform yn ail mewn 13 o seddi, gan gynnwys dod yn agos at gipio Llanelli.

“Mae wedi ei niweidio’n sylweddol (damaged goods) yn barod,” meddai Dr Kim Howells wrth drafod Prif Weinidog Cymru.

“Mae angen i Lafur Cymru newid eu harweinydd yn gynt yn hytrach na’n hwyrach.

“Y broblem yw bod angen dod o hyd i rywun i gymryd ei le, ac i wneud hynny rhaid dangos rywfaint o asgwrn cefn a phenderfynoldeb.

“Fe siaradais i a nifer o gyn ASau eraill cyn yr etholiad yma, pob un o Gymru.

“Ac roedd pob un yn dweud, os oedd hwn yn etholiad Senedd, fe fydden ni wedi colli.”

Dywedodd ei fod yn cytuno bod yna “siawns reit dda” y gallai Llafur fod wedi dod yn drydydd.

“Rwy'n meddwl bod yna lawer iawn o ddadrithiad allan yna ynglŷn â pherfformiad Llafur yn y Senedd,” meddai.

“Mae angen iddyn nhw cael gafael ar bethau.”

'Mae'n gwrando'

Wrth siarad ar raglen Politics Wales yn ddiweddarach, fe ymatebodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens yn uniongyrchol i sylwadau Kim Howells.

"Nid yw Kim Howells mewn sefyllfa i wneud hynny," meddai.

"Mae grŵp Llafur y Senedd wedi cefnogi’r Prif Weinidog. Mae'n bwrw ymlaen â'r swydd. 

"Edrycwch ar y ffordd y mae o wedi ymdrin â streic y meddygon iau yng Nghymru. Wedi datrys hynny’n gyflym, bydd yr adolygiad o’r polisi 20 milltir yr awr sydd ar y gweill, a newidiadau yn dod i mewn ym mis Medi, yr ymgynghoriad ac ystyriaeth bellach ar y cynllun ffermio cynaliadwy. 

"Mae llawer o waith yn digwydd, gwaith da yn digwydd, ac rydw i'n edrych ymlaen ato a dyma’r hyn a drafodwyd gennym ddoe yn ein galwad i lywodraethau Llafur weithio mewn partneriaeth yn seiliedig ar ymddiriedaeth, parch, cydweithio, i gyflawni ar gyfer pobl Cymru, yng Nghymru a ledled Prydain. 

"Mae gan Vaughan fy nghefnogaeth lwyr fel Prif Weinidog, rwy’n meddwl ei fod yn gwneud gwaith gwych. Bydd yn parhau i wneud gwaith gwych, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda fo."

Mae etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.