Newyddion S4C

Darogan mwyafrif ysgubol i Lafur a chwalfa wleidyddol i'r Ceidwadwyr

04/07/2024

Darogan mwyafrif ysgubol i Lafur a chwalfa wleidyddol i'r Ceidwadwyr

Mae canlyniad pôl piniwn arwyddocaol o farn pleidleiswyr ar ôl gadael y gorsafoedd pleidleisio newydd gael ei gyhoeddi am 22:00.

Ac mae’n awgrymu y gallai’r Blaid Lafur hawlio mwyafrif hanesyddol o 410 o seddi.

Yn ôl pôl piniwn Ipsos ar gyfer ITV/Sky/BBC mae’r Ceidwadwyr yn wynebu chwalfa wleidyddol na welodd y blaid ei bath erioed, ac fe fydd Reform UK yn sicrhau cynrychiolaeth sylweddol yn San Steffan am y tro cyntaf gydag 13 sedd.

Dyma’r hyn y mae canlyniad y pôl piniwn yn ei awgrymu:

  • Llafur - 410 sedd
  • Ceidwadwyr - 131 sedd
  • Democratiaid Rhyddfrydol - 61 sedd
  • Reform UK - 13 sedd
  • SNP - 10 sedd
  • Plaid Cymru - 4 sedd
  • Y Blaid Werdd - 2 sedd
  • Eraill - 19 sedd

Mae Syr Keir Starmer wedi diolch i'r bobl sydd wedi pleidleisio i'w blaid yn dilyn cyhoeddi canlyniad y pôl piniwn. 

Wrth ymateb i'r arolwg, dywedodd Nicola Sturgeon wrth ITV nad oedd hi am fod yn noson dda i'r SNP wrth edrych ar y canlyniad.

Diolchodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, i'w gefnogwyr, gan ddweud bod y pôl piniwn yn awgrymu canlyniad gorau i'w blaid ers canrif.

Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru hefyd wedi diolch i gefnogwyr ei blaid, ac i'r ymgyrchwyr a'r ymgeiswyr.

Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn “hynod siomedig” gyda’r canlyniad tebygol.

Dywedodd fod angen “edrych ar beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn San Steffan dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi bod yn heriol a dweud y lleiaf”.

Mae canlyniadau polau piniwn ar ddiwedd y pleidleisio yn ystod etholiadau’r gorffennol wedi darogan yn agos y darlun cywir ar ddiwedd y cyfrif.

Mae 650 sedd yn y fantol, gyda 32 o'r rhain yng Nghymru. 

Fe fydd plaid yn sicrhau mwyafrif wrth gyrraedd y trothwy o 326 o seddi.

Mae pôl piniwn o'r canolfannau cyfrif nos Iau yn wahanol i'r rhai sydd wedi eu casglu yn ystod yr ymgyrchu.

Mae'r wybodaeth yn cael ei gasglu drwy holi pleidleiswyr wrth iddyn nhw adael y gorsafoedd pleidleisio gan ofyn iddyn nhw lenwi papur pleidleisio ffug.

Wrth osod timau mewn 130 o orsafoedd pleidleisio ar hyd a lled Prydain, mae modd derbyn darlun manwl o'r tueddiadau pleidleisio cyn y canlyniad terfynol.

Canlyniadau

Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf i gael eu cyhoeddi ddod o Blyth & Ashington am tua 23:30 a Houghton & De Sunderland am tua 23:45.

Mae’r ddwy sedd yng ngogledd ddwyrain Lloegr, a’r ddwy yn cael eu hamddiffyn gan y Blaid Lafur.

Mae disgwyl i’r seddi cyntaf o Gymru, Gorllewin Abertawe a Bro Morgannwg, gyrraedd am 02.00. Mae Bro Morgannwg yn un o brif dargedau'r Blaid Lafur yng Nghymru a bydd yn rhoi syniad da i ba raddau mae’r rhod wedi troi yma.

Am 03.00 bydd sedd allweddol arall, Ynys Môn, yn cyrraedd. Mae hon yn ras y mae tair plaid yn gobeithio ei hennill, rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr.

Bydd Caerfyrddin chwarter awr yn ddiweddarach yn sedd allweddol arall i’r tair prif blaid yng Nghymru.

Mae modd dilyn yr holl ganlyniadau drwy gydol y nos a’r bore ar flog byw Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.