Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

03/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Sadwrn, 3 Gorffennaf.

Galw am barhau gyda mesurau atal Covid-19 i'r dyfodol

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud y dylai mesurau atal Covid-19 barhau i'r dyfodol. Mae'r gymdeithas yn galw am i fesurau fel gwisgo masgiau a phwysleisio pwysigrwydd awyru barhau er mwyn atal cynnydd "brawychus" mewn achosion.

Colli allan ar swydd gyflwyno am beidio bod yn ‘rhugl’

Mae’r berfformwraig Eädyth Crawford wedi mynegi anfodlonrwydd ei bod heb gael swydd gyflwyno gan nad oedd yn ddigon “rhugl”. Mae Newyddion S4C ar ddeall mai cwmni o du allan i Gymru oedd yn gyfrifol am y broses recriwtio, a hynny ar gyfer BBC Bitesize. Dywedodd BBC Cymru bod ganddynt "ymrwymiad clir i'r Gymraeg".

Cymru i chwarae rygbi o flaen torf am y tro cyntaf ers 16 mis 

Fe fydd tîm rygbi Cymru yn chwarae gêm o flaen torf am y tro cyntaf ers Mawrth 2020 yn ddiweddarach ddydd Sadwrn. Fe fydd torf lai na’r arfer o 8,000 o bobl yn gwylio’r crysau cochion yn Stadiwm y Principality wrth iddynt wynebu Canada fel rhan o’u taith haf.

Digwyddiadau’r ffermwyr ifanc yn ail-ddechrau wedi blwyddyn ‘wahanol’

Mae Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi dechrau cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith yn rhagor mewn rhannau o Gymru wedi blwyddyn “wahanol” i’r mudiad. Ddydd Sadwrn fe fydd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro yn cynnal rali wyneb yn wyneb, gydag aelodau o’r cyhoedd hefyd yn cael mynychu i wylio’r cystadlu.

Brwydro tân nwy enfawr oddi ar Gwlff Mecsico

Mae diffoddwyr wedi bod yn brwydro fflamau yn y môr oddi ar Gwlff Mecsico wedi i bibell nwy ddifrodi o dan yr wyneb. Mae fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu'n bell ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i'r fflamau ledaenu ddydd Gwener. Yn ôl y cwmni tanwydd Pemex, nid oes unrhyw anafiadau wedi eu hadrodd yn sgil y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.