Digwyddiadau’r ffermwyr ifanc yn ail-ddechrau wedi blwyddyn ‘wahanol’
Digwyddiadau’r ffermwyr ifanc yn ail-ddechrau wedi blwyddyn ‘wahanol’
Mae Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi dechrau cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith yn rhagor mewn rhannau o Gymru wedi blwyddyn “wahanol” i’r mudiad.
Oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, mae’r mudiad wedi gorfod addasu eu gweithgareddau, gan gynnal cystadlaethau ar-lein a chyfarfod â’i gilydd dros Zoom.
Ddydd Sadwrn fe fydd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro yn cynnal rali wyneb yn wyneb, gydag aelodau o’r cyhoedd hefyd yn cael mynychu i wylio’r cystadlu.
Dywedodd Tania Hancock, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro wrth Newyddion S4C: “Mae cymaint o waith paratoi wedi bod yn arwain at hwn. Rydym wedi bod yn monitro canllawiau’r llywodraeth yn agos ar gyfer y coronafeirws i weld beth allwn ni ac na allwn ni wneud”.
“Mae CFfI yn fudiad ieuenctid mor allweddol ac amhrisiadwy ac mae angen i ni fod yna i ddarparu cyfleoedd i’n haelodau a thrwy gadw popeth yn rhithiol ac ar-lein mae’n ynysu nhw’n fwy felly os allwn ni addasu i’w oresgyn ac i newid dyna fydd angen i ni ei wneud i ddarparu cyfleoedd i’n haelodau i gymdeithasu ac i ryngweithio ond mewn modd diogel”.
‘Blwyddyn ‘itha drwm’
Dywedodd Delun Evans, Brenhines Rali Sir Benfro wrth Newyddion S4C: “Ni ‘di cael blwyddyn 'itha drwm nawr o ‘neud popeth ar-lein”.
Ond yn fwy diweddar, mae mwy o weithgareddau wedi gallu cael eu cynnal wyneb yn wyneb wrth i gyfyngiadau iechyd cyhoeddus gael eu llacio ymhellach.
Ychwanegodd Delun: “Dechreuon ni bant yn fach a neud tamed o farnu stoc a gweld bod pobol ishe troi mas i gystadlu.
“Ni jyst wedi bownsio off beth mae’r aelodau ishe sy’ really bwysig i ni achos ar diwedd y dydd yr aelodau sy’n bwysig a’r aelodau yw dyfodol y mudiad”.
Yn gynharach eleni, fe glywodd Newyddion S4C bryderon am y nifer o aelodau’r mudiad.
Ar y pryd, roedd nifer yr aelodau wedi gostwng tua 30% o’i gymharu â’r llynedd.
Derbyniodd y mudiad grant o £137,000 fel rhan o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.
Ond, dywedodd y mudiad bryd hynny nad oedd yr arian yna’n ddigon i newid eu sefyllfa ariannol fregus tua’r dyfodol.
Dywedodd Katie Davies, Cadeirydd CffI Cymru: “Ma’ blwyddyn diwetha’ yn blwyddyn wahanol i ffermwyr ifanc Cymru”.
Ychwanegodd fod gweithgareddau yn dechrau ail-gydio mewn rhannau o Gymru.
“Ma’ siroedd a clybiau yn dechrau cwrdd wyneb i wyneb a ma’ hwn yn mor ffantastig ar y lefel sir ma’ cwpwl o siroedd yn ‘neud y cystadlu yn y rali dros platfform rithiol ond ma’ cwpwl o siroedd yn ‘neud y cystadlu wyneb i wyneb.
“Ar y lefel Cymru, ni’n ‘neud sioe frenhinol rithiol, ond ni’n gobeitho os ma’r restrictions yn ymlacio ‘to ni’n gobeitho ni’n cael diwrnod cystadlu ym mis Awst”.