Newyddion S4C

Colli allan ar swydd gyflwyno am beidio bod yn ‘rhugl’

03/07/2021
Eadyth

Mae’r berfformwraig Eädyth Crawford wedi mynegi anfodlonrwydd ei bod heb gael swydd gyflwyno gan nad oedd yn ddigon “rhugl”.

Rhannodd ei phrofiad ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Iau gan ddweud: “Newydd gael fy ngwrthod am swydd gyflwyno Gymraeg oherwydd dydw i ddim yn ddigon rhugl...nice one!

“Dim yn meddwl y bydda i byth yn teimlo fy mod i’n cael fy nerbyn fel 100% Cymraeg.  Put down and a half”, ychwanegodd.

Mae cryn ymateb wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn sylwadau Eädyth, gyda degau o bobl yn lleisio eu cefnogaeth iddi.

Mae Newyddion S4C ar ddeall mai cwmni o du allan i Gymru oedd yn gyfrifol am y broses recriwtio, a hynny ar gyfer BBC Bitesize.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth: “Mae gan BBC Cymru ymrwymiad clir i’r Gymraeg ac i sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio ac i weithio yn eu hiaith eu hunain. Mae’r egwyddor holl bwysig honno yn ganolog i’r ffordd yr ydym yn darlledu.

“Mae gennym ymrwymiad cadarn i ymchwilio’n drwyadl i unrhyw gwynion sy’n dod i law ac os oes unrhyw un yn destun neu’n dyst i ymddygiad annheg neu amhriodol, byddem yn eu hannog i godi hynny’n uniongyrchol gyda ni".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.