Newyddion S4C

Galw am barhau gyda mesurau atal Covid-19 i'r dyfodol

Sky News 03/07/2021
Cyfyngiadau Covid-19 mewn gorsaf drenau

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud y dylai mesurau atal Covid-19 barhau i'r dyfodol.

Mae'r gymdeithas yn galw am i fesurau fel gwisgo masgiau a phwysleisio pwysigrwydd awyru barhau er mwyn atal cynnydd "brawychus" mewn achosion.

Daw'r galwadau wrth i Lywodraeth y DU baratoi i godi cyfyngiadau yn llwyr yn Lloegr erbyn 19 Gorffennaf.

Nid oes dyddiad wedi ei benodi yng Nghymru eto ar gyfer codi'r cyfyngiadau, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cymryd "agwedd ofalus, graddol tuag at ailagor."

Yn ôl y llywodraeth, mae'r cynlluniau i godi cyfyngiadau yng Nghymru yn cael eu gwneud ar sail data diweddaraf iechyd cyhoeddus.

Mae Prif Weinidog y DU yn gobeithio y bydd cynlluniau ei lywodraeth i godi'r cyfyngiadau yn llwyr yn Lloegr yn gallu digwydd ar 19 Gorffennaf, meddai Sky News.

Er hynny, mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dangos bod cyfraddau'r haint yn parhau i fod ar gynnydd.

'Dim synnwyr'

Dywedodd Dr Chaand Nagpaul, Cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain: "Wrth i niferoedd achosion barhau i godi ar raddfa frawychus oherwydd trosglwyddiad cyflym yr amrywiad Delta a chynnydd yn y bobl sy'n cymysgu â'i gilydd, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i godi cyfyngiadau yn llwyr mewn ychydig dros bythefnos.

"Yr addewid oedd gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata ac nid dyddiadau, ac er ein bod yn falch o weld y llywodraeth yn ymateb i ddata wrth ohirio'r llacio ar 21 Mehefin, rhaid i weinidogion nawr beidio â diystyru'r ffigyrau damniol mwyaf diweddar, gan ruthro i gyrraedd eu dyddiad newydd ar 19 Gorffennaf."

Daw'r galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain wrth i The Times adrodd ddydd Sadwrn na fydd rhaid i unigolion sydd wedi eu brechu yn llawn yn erbyn Covid-19 ddilyn unrhyw fesurau hunan ynysu os ydynt yn dod i gyswllt gyda pherson sydd wedi eu heintio â'r feirws. 

Nid oes cynlluniau o'r fath wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.