Newyddion S4C

Cymru i chwarae rygbi o flaen torf am y tro cyntaf ers 16 mis

Newyddion S4C 03/07/2021

Cymru i chwarae rygbi o flaen torf am y tro cyntaf ers 16 mis

Fe fydd tîm rygbi Cymru yn chwarae gêm o flaen torf am y tro cyntaf ers Mawrth 2020 yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.

Fe fydd torf lai na’r arfer o 8,000 o bobl yn gwylio’r crysau cochion yn Stadiwm y Principality wrth iddynt wynebu Canada fel rhan o’u taith haf.

Y tro diwethaf i’r crysau cochion chwarae o flaen torf oedd yn erbyn Lloegr yn Twikenham yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019

Fe fydd nifer o chwaraewyr arferol Cymru’n absennol ddydd Sadwrn gan eu bod yn rhan o dîm y Llewod ar eu taith o amgylch De Affrica.

Jonathan Davies fydd yn arwain ei wlad yn ystod gemau’r haf tra bo Alun Wyn Jones wedi derbyn anaf yn ystod gêm brawf rhwng y Llewod a Japan ym Murrayfield ddydd Sadwrn diwethaf.

Fe fydd Rob Howley yn dychwelyd i rygbi rhyngwladol, ond fel rhan o dîm hyfforddi Canada y tro hwn.

Roedd Howley yn hyfforddwr ymosod Cymru am 10 mlynedd cyn iddo gael ei anfon adref o ymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan am dorri rheolau betio.

Image
Rob Howley
Ymunodd Howley â thîm hyfforddi Canada yn 2020. Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

‘Meddwl shwt gymaint’

Mae disgwyl i dafarndai’r brifddinas fod yn brysur ddydd Sadwrn wrth i bobl gyrraedd yno i wylio’r gêm.

Dywedodd Richard Lewis, rheolwr tafarn Brew Monster wrth raglen Newyddion S4C: “Mae’n meddwl shwt gymaint i’r dinas i gael y gemau ‘ma, ni ‘di colli shwt gymaint o nhw nawr”.

Ychwanegodd: “Ar y foment, y rheol dau fetr sy’n bodoli, felly mae’n galed i ni cael fwy o bobl na beth sy’ ar dyddiadau penodol ar penwythnos.

“Fi’n credu fel ma’ fwy o pethach yn dod ‘nôl, a fwy o normaliaeth fi’n credu bo llai o pobl yn falle dilyn y rheolau, a meddwl falle s’dim rhaid i nhw ddilyn y rheolau”.

Mae’n pwysleisio'r angen hefyd am fwy o staff yn sgil cynnydd disgwyliedig yn y nifer o gwsmeriaid.

“Fydd angen fwy o staff arnom ni jyst i reoli achos bo fwy o pobl ‘ma, a stopi pobl falle i treial cymryd fordydd a ffito gormod o bobl rown fordydd.

“So ma’n galetach ffor ‘na i ni, ond ni’n llawn ar y penwythnos a ma’r haul yn gwenu yn barod”.

Image
Jonathan Davies
Jonathan Davies fydd yn arwain y tîm yn erbyn Canada. Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Mae capten Cymru hefyd yn obeithiol wrth i gefnogwyr ddychwelyd i’r stadiwm am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.

Dywedodd Jonathan Davies wrth raglen Newyddion S4C: “Jyst yn siomedig ni ddim gallu cael fwy achos ma’ fe ‘di bod shwt gymaint o amser ers ni ‘di cael y stadiwm gyda bobl mewn, fi’n siŵr bydd ni’n gallu cael sell out dwy, tri waith ar ôl e.

“So ie, ma’ fe jyst braf i gael bobl nôl”.

Fe fydd y gic gyntaf am 15:00 gydag uchafbwyntiau estynedig o’r gêm yn cael eu darlledu ar S4C am 21:30 nos Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.