Newyddion S4C

‘Syrcas am dair wythnos’: Y Cymry sydd yn cymryd rhan yn y Tour de France

‘Syrcas am dair wythnos’: Y Cymry sydd yn cymryd rhan yn y Tour de France

Bydd dau gynnig i’r Cymry yn y Tour de France eleni wrth i ras feics enwocaf y byd ddychwelyd ddydd Sadwrn.

Dros y tair wythnos nesaf, bydd reidwyr gorau’r byd yn cystadlu mewn cyfres o 21 ras – neu gymal – dros 21 diwrnod.

Eleni, bydd y ras yn 3,492 cilomedr o hyd, gyda'r Grand Depart - y cymal cyntaf - yn dechrau yn Yr Eidal.

Bydd y person sydd yn cwblhau’r cyfan yn y cyfnod lleiaf o amser yn ennill dosbarthiad cyffredinol y ras ac yn hawlio’r crys melyn, sy'n cael ei rhoi i enillydd Tour de France.

Image
Jonas Vingegaard o Denmarc oedd enillydd ras y llynedd
Jonas Vingegaard o Denmarc oedd enillydd ras y llynedd (Llun: AFP/Wotchit)

Ond mae crysau eraill i'w hawlio hefyd:

Y crys gwyrdd - i’r gwibiwr gorau sydd yn casglu'r mwyaf o bwyntiau am wibio yn ystod y ras.

Y crys pys (neu grys polka dot) – i Frenin y Mynyddoedd, am gasglu’r nifer uchaf o bwyntiau wrth ddringo i frig y mynyddoedd yn gyntaf.

Y crys gwyn – i’r reidiwr dan 25 oed sydd â’r amser gorau yn y dosbarthiad cyffredinol, sef y cyfanswm amser dros yr holl gymalau.

Y Cymry sydd yn y ras

Eleni, mae dau Gymro yn cymryd rhan; Geraint Thomas a Stevie Williams.

Yn 38 mlwydd oed, bydd Geraint Thomas yn cymryd rhan yn y ras am trydydd tro ar ddeg yn ei yrfa.

Fe enillodd y ras yn 2018, gan gyhoeddi ei araith fuddugol ar y Champs Elysses gyda’r Ddraig Goch ar ei ysgwyddau.

Ers hynny, mae hefyd wedi gorffen yn yr ail safle, cyn gorffen yn drydydd y llynedd.

Eleni, mae’n debyg na fydd yn cystadlu i ennill y dosbarthiad cyffredinol, gan nad yw wedi ei ddewis i arwain ei dîm, sef Ineos Grenadiers.

Wrth siarad ar ei bodlediad Watts Occurin’, eglurodd mai ei rôl y flwyddyn hon fydd i gynorthwyo’r Sbaenwr Carlos Rodriguez, gan anelu i ennill cymal neu ddau.

'Nerfus'

Yn wahanol i ‘G’, bydd Stevie Williams yn cymryd rhan yn y Grand Tour am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Y gŵr 29 oed o Aberystywth fydd yr ail Gymro Cymraeg erioed i gymryd rhan yn y ras.

Yn cynrychioli tîm Israel Premier Tech, dywedodd wrth Newyddion S4C mai ei nod fydd i geisio ennill un o’r 21 o gymalau.

Wedi iddo ennill ras La Fleche Wallone yng Ngwlad Belg a’r Tour Down Under yn Awstralia'r tymor hwn, mae wedi dangos ei fod yn gyfforddus wrth gystadlu gyda goreuon y byd.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd: “Fi’n edrych ymlaen. Fi’n nerfus hefyd ond fi’n credu mae hynny’n normal.

“Bydd e fel sioe, fel syrcas, am y tair wythnos nesaf so fi’n edrych mlaen gyda excitment, nerfusrwydd, ond fi’n ready i fynd.

"Fi’n credu mai dyma’r flwyddyn mwyaf yn fy ngyrfa. Oa chi’n edrych ar yr haf perfect, fi’n credu bydd e’n Tour de France a wedyn mewn i’r Gemau Olympaidd - so mae’n sbesial iawn."

“Mae blwyddyn yma wedi rhoi llawer o hyder i fi,” ychwanegodd.

“Fi’n credu y penwythnos cyntaf o'r Tour de France, y ddau cymal fydd yn yr Eidal, maen nhw’n edrych yn dda i fi - especially cymal 2.”

Y prif gymeriadau

Mae'r beiciwr o Slofenia, Tadej Pogacar, wedi ennill y ras dwywaith yn y gorffennol ac ef yw'r ffefryn i ennill eleni, yn ôl y bwcis.

Bydd yn debygol o gael ei wthio'r holl ffordd gan Jonas Vingegaard o Denmarc, sydd wedi ennill y ras yn y ddwy flynedd diwethaf,  tra bod Primoz Roglic o Slofenia a Remco Evenepoel o Wlad Belg hefyd ymysg y ffefrynnau.

Bydd y gwibiwr o Ynys Manaw, Mark Cavendish hefyd yn gobeithio torri'r record am ennill y nifer fwyaf o gymalau eleni.

Mae'r gŵr 39 mlwydd oed wedi ennill 34 cymal Tour de France yn ystod ei yrfa, ac angen un arall i wella record Eddy Merckx.

Bydd y Tour de France yn cychwyn ddydd Sadwrn, gyda phob cymal yn cael eu dangos ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.