Newyddion S4C

O Geredigion i’r Grand Depart: Stevie Williams yn paratoi am y Tour de France a’r Gemau Olympaidd

26/06/2024

O Geredigion i’r Grand Depart: Stevie Williams yn paratoi am y Tour de France a’r Gemau Olympaidd

Bydd y ddau fis nesaf y rhai mwyaf yng ngyrfa’r beiciwr proffesiynol Stevie Williams wrth iddo gymryd rhan yn y Tour de France a’r Gemau Olympaidd.

Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd y gŵr 28 oed o Aberystwyth ei ddewis yn nhîm seiclo Prydain ar gyfer y Gemau ym Mharis.

Yn ymuno ag ef bydd y beiciwr 20 oed o Aberaeron, Josh Tarling – gan olygu mai o Geredigion fydd hanner y tîm ar gyfer ras y ffordd yn y Gemau Olympaidd yn dod.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Steve Williams bod cael cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yn gwireddu un o freuddwydion ei blentyndod.

“Yn bersonol, mae’n amazing,” dywedodd Stevie, sy'n gyn aelod o Glwb Beicio Ystwyth.

“Dwi wedi bod yn edrych ar y Gemau Olympaidd since oeddwn i’n fachgen bach so i fynd nawr i Paris mis nesaf, bydd e’n dream come true.

“Ac wedyn hanner y tîm yn dod o Geredigion – bydd hynny’n sbesial iawn hefyd, achos os chi’n edrych o’r outside ni ddim efo’r cyfleusterau fel rhai llefydd o Gymru, fel yn y dde.

“Felly mae’n neis gweld bod y ffyrdd yng Ngheredigion yn rhoi digon i ddau grwt mynd lan i’r professional ranks.”

'Syrcas'

Cyn hynny, bydd Stevie yn cymryd ei le ar linell cychwyn y ras feics mwyaf yn y byd, y Tour de France, am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Stevie fydd yr ail Gymro Cymraeg erioed i gymryd rhan yn y ras, ar ôl i Owain Doull ei chwblhau yn 2022. 

“Fi’n edrych ymlaen. Fi’n nerfus hefyd ond fi’n credu mae hynny’n normal.

“Bydd e fel sioe, fel syrcas, am y tair wythnos nesaf so fi’n edrych mlaen gyda excitment, nerfusrwydd, ond fi’n ready i fynd.

"Fi’n credu mai dyma’r flwyddyn mwyaf yn fy ngyrfa. Oa chi’n edrych ar yr haf perfect, fi’n credu bydd e’n Tour de France a wedyn mewn i’r Gemau Olympaidd - so mae’n sbesial iawn."

Mae 2024 eisoes wedi bod yn flwyddyn i’w gofio i’r Cymro sy'n rasio i'r tîm o Israel, Premier-Tech.

Fe ddechreuodd y tymor drwy ennill ras y Tour Down Under yn Awstralia fis Ionawr.

Yna ym mis Ebrill, daeth yr enillwr Prydeinig cyntaf yn ras La Fleche Wallone yng Ngwlad Belg, un o rasus clasurol undydd mwyaf y gamp.

“Mae blwyddyn yma wedi rhoi llawer o hyder i fi,” ychwanegodd.

“Fi’n credu ennill lawr yn Awstralia ym mis Ionawr, nath hynny rhoi hyder mawr i mi ac wedyn y gôl nesaf oedd mynd i’r Ardennes Classics a trio ennill un yn fan ‘na.

Image
Stevie Williams yn ennill La Fleche Wallone fis Ebrill
Stevie Williams yn ennill ras La Fleche Wallone fis Ebrill (Llun: Belga/AFP)

“Fi’n credu wnaeth y Fleche Wallone siwtio fi lawr i’r ground. Hefyd yn dod o Aberystwyth, fi’n credu roedd y tywydd ar y diwrnod wedi helpu hefyd.

“Fi’n credu y penwythnos cyntaf o'r Tour de France, y ddau cymal fydd yn yr Eidal, maen nhw’n edrych yn dda i fi - especially cymal 2, sydd yn mynd dros San Luca dwy waith ac yn disgyn lawr i Bologna. 

"Bydd hwnna’n cymal galed ond fi’n credu os chdi’n edrych ar pa fath o reidiwr ydw i, mae’n siwtio fi’n eitha da.” 

'Prowd i ddod o Gymru'

Mae’r Cymry wedi heidio i fynyddoedd Ffrainc dros y blynyddoedd diwethaf i ddangos eu cefnogaeth i Geraint Thomas, Luke Rowe ac Owain Doull.

Ac mae Stevie yn gobeithio gweld y ddraig goch yn hedfan yn ystod y ras eto eleni, wrth iddo ef a Geraint gymryd rhan.

Dywedodd Stevie: “Wrth gwrs, dwi wastad yn dweud e – dwi mor prowd i ddod o Gymru a bod yn Gymro sy’n siarad Cymraeg.

“Felly i weld y ddraig yna, y ddraig goch yn disgyn yn yr awyr, i fi pryd fi’n rasio ac i gyd o’r geiriau neis fi’n cael o Aberystwyth, o Gymru, mae’n sbesial iawn.

“Mae’n rhoi 10% mwy i fi os fi’n gallu clywed pawb yn sgrechian a gweld y fflag ‘na.”

Bydd y Tour de France yn cychwyn ddydd Sadwrn, gyda phob cymal yn cael eu dangos ar S4C.

Lluniau: Belga/AFP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.