Newyddion S4C

Ysgrifennydd Cymru 'yn poeni am enw da'r blaid Geidwadol' wedi honiadau betio

21/06/2024
David TC Davies

Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi cydnabod ei fod yn poeni am enw da y blaid Geidwadol wedi honiadau am fetio ar amseru yr Etholiad Cyffredinol.

Gyda phythefnos yn unig o ymgyrchu ar ôl, mae nifer o bobl sydd â chysylltiadau â’r blaid Geidwadol neu Rif 10 yn wynebu honiadau o gamblo ar union amseriad yr etholiad.

Dywedodd David TC Davies wrth y BBC fore dydd Gwener: “Ar y bore y cafodd yr etholiad ei alw roeddwn i’n siarad â gweision sifil ac fe ddywedon nhw ‘O, wyt ti wedi clywed y sïon yma?’ neu eiriau i’r perwyl hwnnw.

“Ond doeddwn ni ddim yn gwybod ac yn aml iawn yn y gorffennol rydw i wedi cael sgyrsiau fel yna, felly doeddwn i ddim yn gwybod a doeddwn i ddim yn sicr, dwi’n meddwl, nes i’r prif weinidog ein ffonio ni yn y prynhawn hwnnw, ac rydw i yn y Cabinet felly efallai eich bod wedi meddwl y byddwn wedi cael rhywfaint o rybudd o flaen llaw.”

Ychwanegodd: "Fe wnes i benderfyniad pan ddes i mewn i Swyddfa Cymru fel ysgrifennydd gwladol y byddwn yn gwneud dau beth ar unwaith i osod esiampl. 

"Y cyntaf oedd cael gwared ar y car gweinidogol, felly rydw i wedi bod yn hapus yn teithio o gwmpas ar y Tube ers hynny, ond dwi ddim yn credu bod hynny yn briodol i bob gweinidog cabinet oherwydd mae gan rai ohonyn nhw fwy o faterion diogelwch nag sydd gen i.

"Yr ail beth wnes i oedd edrych o gwmpas, a  sylwi bod alcohol yn yr adeilad a gofyn am gael gwared ar y cyfan o fewn 48 awr fel nad oedd yna unrhyw alcohol yn cael ei gynnig mewn digwyddiadau Swyddfa Cymru, a na fyddai unrhyw un, gan gynnwys fi fy hun, yn yfed alcohol mewn unrhyw un o ddigwyddiadau swyddogol."

Dywedodd Rishi Sunak y dylai Ceidwadwyr gael eu taflu allan o'r blaid a “wynebu holl rym y gyfraith” os yw'n dod yn amlwg eu bod wedi torri rheolau betio.

Fe wnaeth y Prif Weinidog wynebu cwestiynau anodd dros y sgandal fetio sydd wedi taro ei ymgyrch etholiadol ar raglen Question Time arbennig y BBC nos Iau, oedd hefyd yn cynnwys yr arweinwyr Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r SNP.

Fe fydd Mr Sunak ym Mae Kinmel yn Sir Conwy ddydd Gwener ar gyfer lansio maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig.

'Diffyg moeseg'

Gofynnodd aelod o’r gynulleidfa i Mr Sunak nos Iau: “Onid yw’r honiadau hyn sy’n dod i’r amlwg am fetio ar ddyddiad yr etholiad yn ymgorfforiad llwyr o’r diffyg moeseg y bu’n rhaid i ni ei oddef gan y Blaid Geidwadol ers blynyddoedd a blynyddoedd?”

Atebodd y Prif Weinidog: “Wel fel chi, roeddwn i’n hynod o ddig, yn anhygoel o flin i glywed am yr honiadau hyn.

“Mae’n fater difrifol iawn. Mae'n iawn eu bod yn cael eu hymchwilio'n briodol gan yr awdurdodau gan yr awdurdodau perthnasol gan gynnwys fel y dywedodd Fiona (Bruce), ymchwiliad troseddol gan yr heddlu.

“Rydw i eisiau bod yn hollol glir - oes unrhyw un wedi torri’r rheolau, fe ddylen nhw wynebu holl rym y gyfraith. A dyna beth mae'r ymchwiliadau hynny yno i'w wneud. 

"A gobeithio y byddan nhw’n gwneud eu gwaith mor gyflym ac mor drylwyr â phosib.”

Image
Doorstep Craig Williams
Mae Craig Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn sedd Maldwyn a Glyndŵr, dan ymchwiliad am fetio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd yr ymgeisydd Ceidwadol Laura Saunders yn gynharach ddydd Iau y bydd hi’n “cydweithredu â’r Comisiwn Hapchwarae”, tra bod ei gŵr, cyfarwyddwr ymgyrchu’r Torïaid, Tony Lee, wedi cymryd absenoldeb o’r gwaith yn dilyn adroddiadau bod y cwpwl yn destun ymchwiliad am gamblo ar union ddyddiad yr etholiad.

Daw’r cyhoeddiad am y betio honedig wedi i Craig Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn sedd Maldwyn a Glyndŵr, gael gwybod ei fod dan ymchwiliad am fetio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd ei fod wedi gwneud “camgymeriad difrifol” drwy osod y bet, gan ychwanegu: "Fe ddylwn i fod wedi ystyried sut roedd o'n edrych."

'Proses'

Wrth gyfeirio at achos Laura Saunders, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol bod y Comisiwn Hapchwarae wedi cysylltu â nhw “ynglŷn â nifer fach o unigolion”. 

“Gan fod y Comisiwn Hapchwarae yn gorff annibynnol, ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach, nes bod unrhyw broses wedi’i chwblhau."

Ddydd Mercher daeth i’r amlwg fod heddwas o dîm amddiffyn y Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos honedig o fetio ar amseriad yr etholiad cyffredinol.

Mae’r swyddog wedi’i wahardd o’i waith am y tro.

Dywedodd Heddlu’r Met: “Cafodd y mater ei gyfeirio ar unwaith at swyddogion yng Nghyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met.

“Cafodd ymchwiliad ei agor, ac fe gafodd y swyddog ei dynnu o’i ddyletswyddau gweithredol hefyd.”

Cyfaddefodd gweinidog y cabinet Michael Gove nad yw’r sefyllfa “yn edrych yn wych” i’r Ceidwadwyr.

Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr sy’n sefyll yn y 32 etholaeth yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf yma.

Llun: PA

 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.