Dau ddyn yn euog o dorri coeden y Sycamore Gap
Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o dorri coeden enwog y Sycamore Gap ym mis Medi 2023.
Cafodd y goeden yn Northumberland ei thorri dros nos ar 27 Medi 2023.
Yn Llys y Goron Newcastle ddydd Gwener, cafwyd Daniel Graham, 39 oed, and Adam Carruthers, 32 oed, yn euog o ddifrod troseddol.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ac fe ddywedodd y barnwr, Mrs Ustus Lambert eu bod yn wynebu "cyfnod hir dan glo."
Roedd yr erlyniad wedi dweud fod y dynion wedi gyrru am 40 munud o ardal Carlisle yn ystod Storm Agnes a thorri’r goeden i lawr mewn cae, gydag un ohonyn nhw’n ffilmio’r weithred ar ffôn symudol.
Dywedodd yr erlyniad hefyd eu bod nhw wedi cymryd darn o'r goeden fel tlws sydd heb ei ddarganfod ers diwrnod y drosedd.
Fe gafodd rhan o wal Rufeinig ei dinistrio yn ystod y digwyddiad.
Ni wnaeth y ddau ddyn ymateb pan y daeth dyfarniad y rheithgor yn y llys fore dydd Gwener.
Cafwyd y ddau'n euog o ddau gyfrif o ddifrod troseddol - gyda chost y difrod i'r goeden yn £622,191 a difrod gwerth £1,144 i'r wal.
Ar y pryd, dywedodd Rob Ternent, prif arddwr Gardd Alnwick yn Northumberland, y byddai'r goeden yn dechrau tyfu eto ond na fyddai "fyth yr un siâp na chystal â'r goeden wreiddiol”.
“Roedd tua 300 oed felly bydd yn cymryd amser hir i ddychwelyd i’r maint hwnnw. Mae’n drueni mawr,” meddai.
Fe fydd Graham a Carruthers yn cael eu dedfrydu yn ystod yr wythnosau nesaf.