Gyrrwr wedi ffoi wedi i gar fynd ar dân yn y Felinheli
Fe wnaeth gyrrwr ffoi wedi i gar fynd ar dân yn y Felinheli fore Gwener.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw wedi adroddiadau am wrthdrawiad un cerbyd ar Stryd Bangor, y Felinheli, yn ardal Aber Pwll.
Ar ôl i swyddogion gyrraedd, "roedd y gyrrwr wedi gadael lleoliad yr wrthdrawiad," meddai'r heddlu.
Cafodd criwiau'r Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw i'r ardal hefyd gan fod y car wedi mynd ar dân.
Mae Heddlu'r Gogledd yn galw am unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw.
Fe allwch gysylltu ar 101 neu drwy wefan yr heddlu gan nodi’r rhif cyfeirnod 25000382090.