
Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd 2025
Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 wedi eu dadorchuddio.
Angharad Pearce Jones o ardal Brynaman sydd wedi cynllunio a chreu’r Gadair a Nicola Palterman o Gastell-nedd sydd wedi creu’r Goron.
Cafodd rhai o’r darnau olaf o ddur gweithfeydd Tata Steel eu ddefnyddio yn nyluniad y ddwy wobr, er mwyn cydnabod treftadaeth ddiwydiannol cartref Eisteddfod yr Urdd eleni, a gynhelir ym Mharc Margam, Port Talbot.
Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gadair yw’r gweithfeydd a’r diwydiant dur yn lleol, gyda chyfuniad o ddur Cymreig a’r dur fflat a gynhyrchwyd ym Mhort Talbot, yn cael eu defnyddio er mwyn ei chreu.
Cafodd Angharad ymweliad i safle Tata Steel a gweld rhannau nad oedd i’w gweld o’r ffordd fawr, fel pibelli di-ri, ac mae’r elfennau hyn i’w gweld ar y gadair orffenedig.

Cafodd y wobr ei noddi gan Eglwys Gynulleidfaol Soar-Maesyrhaf.
“Braint o’r mwyaf ydy gwireddu breuddwyd wrth greu’r gadair hon eleni – mae’n rhywbeth sydd wedi bod ar fy wishlist ers blynyddoedd maith,” meddai Angharad Pearce Jones, yr artist a ddaw yn wreiddiol o’r Bala, ond sy’n byw yn ardal Brynaman ers ugain mlynedd.
“Dwi’n ffodus i gael y darn olaf o’r dur Cymreig o weithfeydd Tata ar gyfer y gadair, a ro’n i’n benderfynol i greu cadair oedd yn teimlo’n bositif - oedd yn ddathliad yn hytrach na symbol trist am yr hyn a fu.
“Fy mwriad oedd creu cadair gyfoes ac apelgar i’r person ifanc fydd, gobeithio, yn ei hennill. Dw i eisiau bod nhw’n gallu ei mwynhau am byth.”
Coron gyda deiamwntiau ‘am y tro cyntaf’
Roedd noddwyr y goron eleni, sef ysgolion cynradd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, yn chwilio am rywun lleol i greu’r goron a neidiodd Nicola Palterman ar y cyfle pan ofynnwyd iddi.

“Dwi wedi dylunio sawl comisiwn difyr dros y blynyddoedd, o fodrwyau priodas i wobr Y Prince William Cup, ond dyma’r goron gyntaf,” dywedodd y dylunydd gemwaith.
“Ro’n i’n awyddus bod y cynllun yn cynnwys y Dur a’r Môr.
“Mae tonnau’r tirlun arfordirol yn ardal Aberafan i’w gweld, a’r adar sy’n symbol cryf yng Nghân y Croeso eleni ac yn cynnig arwydd cryf o obaith at y dyfodol.
“Ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd.
“Dw i wedi ychwanegu deiamwntiau bach glas er mwyn cyflwyno elfen o foethusrwydd sy’n rhan nodweddiadol o fy ngwaith dros y blynyddoedd – ac rwy’n credu mai dyma’r tro cyntaf erioed i ddeiamwntiau ymddangos ar goron Eisteddfod yr Urdd.”
Bydd seremoni’r Cadeirio yn cael ei chynnal ar ddydd Iau’r Eisteddfod gyda seremoni’r Coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl.