Newyddion S4C

Galw ar Archesgob Cymru i ymddiswyddo yn dilyn pryderon am Gadeirlan Bangor

Newyddion S4C

Galw ar Archesgob Cymru i ymddiswyddo yn dilyn pryderon am Gadeirlan Bangor

Mae galw ar Archesgob Cymru i ymddiswyddo wedi i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor.

Dros benwythnos Gŵyl y Banc, cyhoeddwyd crynodeb dau adroddiad ar wefan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd â datganiad yn enw Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, y Parchedicaf Andrew John.

Roedd y ddau adroddiad yn cynnwys cwynion am “ddiwylliant lle roedd hi’n ymddangos bod terfynau rhywiol wedi eu cymylu”, defnydd o iaith anweddus ac yfed alcohol yn ormodol.

Mae y Parchedicaf Andrew John wedi cynnig ei "ymddiheuriad mwyaf diffuant i unrhyw aelodau o gymuned yr Eglwys Gadeiriol sydd wedi cael eu brifo" neu sy'n teimlo ei fod "wedi eu gadael i lawr."

Ychwanegodd ei fod yn "ymwybodol iawn o'r boen barhaus y mae rhai pobl yn dal i deimlo, eu rhwystredigaeth gyda'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'u hansicrwydd parhaus am y dyfodol.  

"Rwy'n ymrwymedig i weithio gyda'r Cabidwl, y Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio i sicrhau bod newid parhaol yn digwydd," meddai.

Gwendidau diogelu

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cydnabod gwendidau diogelu, arferion rheoli gwan heb dryloywder digonol a chambihafio mewn perthynas â defnydd alcohol ac ymddygiad rhywiol yn y Gadeirlan.

Dywed yr Eglwys bod yr adroddiadau wedi cael eu comisiynu unwaith iddyn nhw ddod yn ymwybodol o broblemau o fewn y Gadeirlan, ac iddyn nhw greu Grŵp Gweithredu er mwyn sicrhau gwelliannau o ran y materion sydd wedi eu hamlinellu.

Dyw’r adroddiadau llawn heb eu cyhoeddi. Ers cyhoeddi’r crynodebau, mae rhai yn anfodlon gyda’r diffyg manylion sydd wedi eu cyhoeddi, gan feirniadu’r Eglwys am “ddiffyg tryloywder”.

'Diffyg gonestrwydd'

Ers bron i 70 mlynedd, ma John Pockett yn aelod o’r Eglwys yng Nghymru. Bu gynt yn Stiward yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn arweinydd yr Ymbiliau yno.

Fe gytunodd ef i gyfweliad, gan alw ar yr Archesgob i ystyried ei ddyfodol:

“Fe yw arweinydd yr Eglwys yng Nghymru ac mae yng nghanol hyn oll. Fe yw’r Archesgob, fe yw’r arweinydd ac mae wedi digwydd yn ei Eglwys Gadeiriol e.

"Mae e'n trochi enw'r Eglwys yng Nghymru ar hyd a lled y wlad. Mae'n rhaid [Archesgob Cymru] Andy John ddweud yn blwmp ac yn blaen beth sydd wedi digwydd.

Image
Y Parchedicaf Andrew John
Y Parchedicaf Andrew John

"Fyddwn i'n dweud dim ond un peth sydd i Andy John - nid os ond pryd fydd e'n diswyddo?

"Mae 'na gryn ofid am ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru ac am y diffyg gonestrwydd a'r diffyg bod yn agored i'r bobl. Mae'r hawl gyda ni i wybod beth sydd wedi mynd ymlaen." 

Dywed yr Eglwys yng Nghymru bod Bwrdd Goruchwylio wedi ei benodi i oruchwylio gwaith y grŵp gweithredu newydd a chefnogi Deon newydd sydd eto i gael ei benodi.

Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd ac Islwyn, Ruth Jones, yw Cadeirydd grŵp trawsbleidiol San Steffan ar ddiogelu mewn cymunedau ffydd.

Mae hi hefyd wedi galw am esboniad llawn gan yr Archesgob am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

"Rwy'i yn poeni. Mae'r adroddiadau yn fyr felly mae mwy o ofid am beth sydd heb ei gynnwys na'r cynnwys ei hun.

"Maen nhw'n dweud bod problemau wedi codi, ond dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth yw'r problemau rheiny - na felly beth yw'r atebion.

"Rwy'n annog [yr Archesgob] i siarad am y problemau sydd wedi bod a sut maen nhw'n gwella pethau yno fel bod pawb sydd yn ymweld â Chadeirlan Bangor, p'run ai yw hynny am ddiwrnod neu eu bod wedi bod yno ers 50 mlynedd, yn gallu teimlo'n ddiogel yno."

'Tristwch'

Roedd yr Athro Syr Malcolm Evans yn aelod o'r panel statudol i'r ymchwiliad i gam-drin rhywiol plant (IICSA) a ymchwiliodd i gam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion, eglwysi, pleidiau gwleidyddol, grwpiau crefyddol a chartrefi plant gan wneud cyfres o argymhellion.

Er nad oes sôn am gam-drin plant yn benodol yng Nghadeirlan Bangor, mae Syr Malcolm yn poeni am y sefyllfa yno.

Dywed ei fod "o ddiddordeb i bawb i gael tryloywder llwyr" a'i bod hi'n "siomedig" mai crynodebau yn  unig sydd wedi eu cyhoeddi.

"Un o argymhellion allweddol IICSA oedd y dylai archwiliadau ddigwydd a chael eu cyhoeddi." 

Dywed i IICSA weld arferion da o fewn i'r Eglwys yng Nghymru ar lefel cenedlaethol, ac mae'n "destun tristwch" nad yw hynny i weld wedi digwydd yng Nghadeirlan Bangor.

"Mae'r rhain yn bethau sydd wir yn cadw pobl yn ddiogel dros amser.

"Ar yr wyneb, ymddengys bod rhywbeth difrifol wedi mynd o'i le o ran trosglwyddo polisïau'r Eglwys ar lefel genedlaethol i'r hyn sydd yn digwydd ar y ddaear."

Image
Cadeirlan Bangor
Cadeirlan Bangor

Derbyniodd yr Eglwys yng Nghymru argymhellion IICSA ar y pryd, gan ddweud bod ganddyn nhw system genedlaethol diogelu a rheoli achosion, gan ddweud byddai staff priodol yn derbyn hyfforddiant yn unol â'u cyngor gweithredu.

Dywedodd Cadeirydd Cabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor, y Parch David Parry, mewn datganiad i Newyddion S4C:

"Mae gennym hyder llwyr yn y broses gadarn y mae'r Archesgob wedi'i chychwyn ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd gweithredoedd y Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio yn arwain at ddatrys y materion a nodwyd yn Adroddiadau’r Ymweliad a'r Adolygiad Diogelu ac y bydd yn caniatáu i gymuned yr Eglwys Gadeiriol uno unwaith eto i fwrw ymlaen â gwaith a chenhadaeth yr Eglwys."

Datganiad y Parchedicaf Andrew John yn llawn:

"Mae’r methiannau sydd wedi cael eu nodi yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn rhwym o beri’r tristwch dwysaf i unrhyw un sy'n cymryd rhan yng ngwaith a thystiolaeth yr Eglwys, ac sy’n gofalu amdano. Ni fyddai unrhyw un ohonom wedi dymuno i'r sefyllfa hon godi. Rwy'n cynnig fy ymddiheuriad mwyaf diffuant i unrhyw aelodau o gymuned yr Eglwys Gadeiriol sydd wedi cael eu brifo neu sy'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr. 

"Fy mhryder am y materion a adroddwyd i mi oedd y rheswm y gofynnais am yr Adroddiad Ymweliad a'r Adolygiad Diogelu. Mae'r adroddiadau hynny yn cynnwys llawer sy'n destun pryder inni. Maent hefyd, trwy'r argymhellion, yn nodi ffordd ymlaen lle gellir datrys y materion hynny.  

"Wrth ymgymryd â'r gwaith hwnnw, rwy'n ymwybodol iawn o'r boen barhaus y mae rhai pobl yn dal i deimlo, eu rhwystredigaeth gyda'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'u hansicrwydd parhaus am y dyfodol. Mae llawer o waith i'w wneud i iachau clwyfau, i adfer ymddiriedaeth ac i ailadeiladu gweithdrefnau cadarn. 

"Yn hyn i gyd, bydd sicrhau arferion diogelu priodol yn hollbwysig. Rwy'n ymrwymedig i weithio gyda'r Cabidwl, y Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio i sicrhau bod newid parhaol yn digwydd. Mae’r profiad heriol hwn wedi bod yn sobreiddiol i bawb sy'n cymryd rhan. Ar y daith o'n blaenau, bydd angen gwaith caled, a bydd angen iachâd. 

"Fel Cristnogion, mae ein ffydd yn ein dysgu ymwybyddiaeth o'n diffygion dynol, ond hefyd ein dibyniaeth gyson ar y Duw sydd wedi rhannu ein dynoliaeth, sy'n deall ein gwendidau ac a fydd yn ein galluogi i fod y math o bobl, a'r math o Eglwys, y mae am i ni fod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.