Newyddion S4C

Y BBC yn amddiffyn eu penderfyniad i beidio â chynnwys Plaid Werdd Cymru mewn dadl etholiadol

13/06/2024
Anthony Slaughter

Mae'r BBC wedi amddiffyn eu penderfyniad i beidio â chynnwys Plaid Werdd Cymru mewn dadl etholiadol.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru eu bod yn “hynod siomedig” nad ydyn nhw wedi eu gwahodd i fod yn rhan o un o ddadleuon teledu'r BBC.

Bydd y Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a plaid Reform UK yn cymryd rhan yn y ddadl ar ar 21 Mehefin ar drothwy'r Etholiad Cyffredinol.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething yn cymryd rhan yn ogystal ag arweinyddion Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Rhun ap Iorwerth a Jane Dodds.

Bydd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies yn cynrychioli'r Ceidwadwyr ac ymgeisydd Reform UK ym Maldwyn a Glyndŵr, Oliver Lewis, y cynrychioli’r blaid honno.

Dywedodd arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, sydd hefyd yn ymgeisydd yn ne Caerdydd a Phenarth ei fod yn “hynod siomedig” nad oedd gwahoddiad i’w blaid ef ond “nad oedd yn synnu”.

“Pam cynnwys plaid sydd â chynigion radical, beiddgar a gonest ar gyfer dyfodol tecach, gwyrddach i Gymru pan allwch chi gadw at y pleidiau arferol blinedig sy’n gweiddi ar ei gilydd?” meddai.

“Mae pleidleiswyr yng Nghymru yn haeddu gwell.”

'Sylw'

Mae polau piniwn yn awgrymu bod y Gwyrddion yn y chweched safle yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol, y tu cefn i’r pleidiau eraill a fydd yn cymryd rhan yn y ddadl.

Yn ôl pôl piniwn YouGov ar gyfer Cymru ar ddechrau’r mis roedd Llafur ar 45%, y Ceidwadwyr ar 18%, Reform ar 13%, Plaid Cymru ar 12%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5% a’r Gwyrddion ar 4% o’r bleidlais.

Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru: “Gwahoddwyd pleidiau i fod y rhan o BBC Wales Election Debate yn unol â chanllawiau etholiad y BBC a chanllawiau Ofcom. 

"Mae amryw o ystyriaethau, gan gynnwys cyn-berfformiad mewn etholiadau cyfatebol dros o leiaf ddau etholiad, yn ogystal â rhoi sylw teg i batrymau cadarn mewn arolwg barn diweddar. 

"Yn osgystal mae’n cymryd i ystyriaeth nifer yr etholaethau lle mae’r pleidiau yn cynnig ymgeisydd. Drwy gydol yr ymgyrch gall ein cynulleidfaoedd ddisgwyl clywed gan y pleidiau yng Nghymru gan gynnwys Y Blaid Werdd fydd yn cael sylw ar raglen Nick Servini Interviews nos yfory ar BBC One Wales. 

"Mae’r Blaid Werdd hefyd wedi eu gwahodd i ymateb i BBC Wales Election Debate ar BBC Radio Wales.”

Ymgeiswyr

Yn ogystal ag Anthony Slaughter mae ymgeiswyr De Caerdydd a Phenarth yn cynnwys Stephen Doughty (Y Blaid Lafur), Simon Llewelyn (Reform UK), Sharifah Rahman (Plaid Cymru), Ellis Smith (Y Blaid Geidwadol), ac Alex Wilson (Y Democratiaid Rhyddfrydol).

Mae rhestr lawn o holl ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.