Newyddion S4C

80 mlynedd ers D-Day: Y lleoliadau yng Nghymru oedd yn rhan o’r paratoadau

06/06/2024
D-Day

Mae gwledydd ar draws Ewrop yn nodi 80 mlynedd ers D-Day, un o ddyddiau pwysicaf yr Ail Ryfel Byd.

Ar fore Dydd Iau 6 Mehefin 1944, fe wnaeth degau o filoedd o filwyr o Brydain, Canada, America a Frainc lanio ar draethau Normandi.

Y nod oedd goresgyn y Natsïaid yn Ffrainc er mwyn agor ffrynt gorllewinol yn y rhyfel.

Mae’r cyrch yn cael ei gydnabod fel y goresgyniad morwrol mwyaf mewn hanes.

Mae gwasanaethau yn cael eu cynnal yn Ffrainc ac ym Mhrydain ddydd Iau i nodi’r digwyddiad.

Bydd gwasanaeth coffa cenedlaethol y DU yn cael ei gynnal ar safle'r Gofeb Brydeinig yn Ver-sur-Mer, Normandi, lle bydd cyn-filwyr ac ymwelwyr yn rhoi teyrnged i'r rhai a fu farw.

Byd y Brenin Charles III, Prif Weinidog Ffrainc Emanuael Macron a Phrif Weinidog y DU Rishi Sunak yn bresennol, yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, ddiwrnod wedi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo gan Aelodau'r Senedd

Bydd Mr Gething hefyd yn ymweld â thref Asnelles i roi teyrnged wrth y gofeb i Gyffinwyr De Cymru, yr unig uned Gymreig i lanio ar D-Day. 

Fe wnaeth sawl lleoliad yng Nghymru chwarae rhan yn y paratoadau manwl ar gyfer y diwrnod tyngedfennol hwnnw.

Morfa Bychan, Sir Gâr

Un o ganolbwyntiau byddin yr UDA yn eu paratoadau ar gyfer D-Day oedd traeth Morfa Bychan, ger Pentywyn.

Er mwyn ail-greu wal forwrol ar ran o ‘Draeth Omaha’ roedd yr Americanwyr yn bwriadu glanio arni, fe wnaeth y fyddin adeiladu dwy wal 35 medr o hyd gyferbyn a’i gilydd.

Image
Morfa Bychan
Morfa Bychan (Llun: Llywodraeth Cymru)

Cafodd rhwystrau tanciau o’r enw ‘dannedd y ddraig’ eu gosod ar y traeth er mwyn ail-greu’r rhwystrau y byddai’r Natsïaid wedi eu gosod ar hyd arfordir Ffrainc.

Pwrpas yr ymarfer oedd i weld os y gallai tanciau osgoi’r rhwystrau a chreu tyllau yn y wal forol, er mwyn galluogi cerbydau i adael y traeth.

Roedd yr ymarfer yn un llwyddiannus, wrth i’r ffrwydrad rwygo twll yn y wal, oedd yn ddigon o faint i alluogi tanc i yrru drwyddo.

Mae un o’r waliau wedi erydu yn gyfan gwbl erbyn hyn, ond mae entrychion y wal fewnol dal i’w gweld ger y llwybr arfordirol hyd heddiw.

Harbwr Mulberry, Conwy

Wrth i’r Cynghreiriad gynllunio ffordd i agor ffrynt gorllewinol yn yr Ail Ryfel Byd, fe gafodd prosiect cyfrinachol o’r enw ‘Mulberry’ ei ysbrydoli gan beiriannwr o Fangor o’r enw Hugh Iorys Hughes.

Image
Harbwr Mulberry, Conwy
Harbwr Mulberry, Conwy (Llun: Llywodraeth Cymru)

Fe wnaeth Mr Hughes sylweddoli fod angen i’r cynghreiriad adeiladu sawl harbwr ar draethau, yn defnyddio strwythurau oedd eisoes wedi eu hadeiladu, oherwydd roedd amddiffynfeydd cryf gan y Natsïaid yn y porthladdoedd Ffrengig. 

Fe wnaeth ei frawd, oedd yn gadlywydd yn y Llynges Frenhinol, rannu’r syniad gyda phenaethiaid y lluoedd arfog.

Rhwng 1942 a 1944, fe wnaeth 1,000 o ddynion weithio ym Morfa Conwy, yn ardal y twyni a’r traeth ble roedd y foryd yn cwrdd â’r môr. 

Fe wnaeth y dynion adeiladu tri strwythur enfawr o’r enw caisson, oedd â’r llysenw, Hippos. Roedd rhai o’r rhannau wedi eu creu yn barod, cyn cael eu hadeiladu mewn strwythurau cyfansawdd ym Morfa Conwy.

Yn 1943, fe benderfynwyd ymestyn prosiect Mulberry ar draws y wlad, gyda dros 200 o caissons ychwanegol yn cael eu hadeiladu. 

Cafodd y strwythurau eu tynnu i Ffrainc a’u cysylltu er mwyn creu waliau harbwr, a helpu’r cynghreiriaid i dywys nifer o gerbydau, gweithwyr, offer a chyflenwadau oedd yn hollbwysig i’r ymdrech.

Ar ôl y rhyfel, fe wnaeth Albert Speer, cyn weinidog y Natsïaid oedd yn gyfrifol am gynhyrchu arfau, ddisgrifio cysyniad Mr Hughes fel ‘syniad o athrylith syml’.

Amroth, Sir Benfro

Fe gafodd ymarferion pwysig hefyd eu cynnal ar ran o arfordir Amroth, yn Sir Benfro yn ystod 1943.

Cyn i'r Cynghreiriaid geisio glanio ar draethau Normandi ym Mehefin 1944, roedd yn hollbwysig eu bod yn ymarfer glanio milwyr a chyflenwadau o'r môr. 

Cynhaliwyd un ymarfer ar y traethau hyn yng Ngorffennaf 1943 a'r enw Ymarferiad Jantzen. Roedd yn bennaf i ymarfer dadlwytho llongau cargo, wedi diogelu'r traethau.

Cafodd llongau eu llwytho â miloedd o dunelli o gyflenwadau ac offer milwrol yn hwylio o Ddinbych-y-pysgod, Abertawe a Phort Talbot i arfordir de-ddwyrain Sir Benfro. Dewiswyd y traethau oherwydd eu tebygrwydd i'r rhai yn Normandi. 

Image
Amroth (Llun: Llywodraeth Cymru)
Amroth (Llun: Llywodraeth Cymru)

Dros yr ymarferiadau 13 diwrnod, cafodd 16,230 tunnell o gyflenwadau eu trosglwyddo i'r lan. 

Cafodd trigolion lleol eu gwahardd o’r traethau yn ystod yr ymarfer, a gorfododd yr heddlu gyrffyw.

Yn ôl hanesion lleol, roedd y Prif Weinidog Winston Churchill yn yr ardal yn gwylio Ymarfer Jantzen, a cafodd paned o de yn Wiseman’s Bridge, lle defnyddiwyd y traeth yno hefyd ar gyfer yr ymarfer.

Dysgodd y Cynghreiriaid lawer iawn o'r ymarferiad, gan gynnwys llawer o ddiffygion dadlwytho offer o longau traeth a chychod. 

Mae'n bosibl bod y methiannau wedi profi i'r awdurdodau milwrol mai'r ffordd fwyaf effeithlon o ddadlwytho milwyr ac offer ar ben traeth diogel oedd adeiladu harbwr artiffisial, gan arwain at gynllun Mulberry, gafodd ei brofi yng Nghonwy.

Prif lun: Robert F Sargent/Wikimedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.