Dyn o Wynedd i ddringo Pen y Fan 27 gwaith er cof am ei nain

Carl Thompson

Bydd dyn o Wynedd yn cychwyn ar yr her o ddringo mynydd uchaf de Cymru 27 gwaith er cof am ei nain wnaeth farw o ganser.

Fore Sadwrn fe fydd Carl Thompson o Dywyn yn cychwyn ar un o'r "heriau anoddaf" iddo wynebu yn ei fywyd.

Dywedodd y dyn 34 oed ei fod yn disgwyl i'r her gymryd tri diwrnod i'w chwblhau, ac nid yw'n bwriadu cysgu yn ystod y cyfnod hynny.

Bydd yn codi arian ar gyfer yr hosbis oedd yn darparu gofal diwedd oes i'w nain, wnaeth farw o ganser pancreatig yn 71 oed ym mis Mawrth.

Penderfynodd Carl i ddringo'r mynydd 27 gwaith gan fod ei nain wedi derbyn gofal diwedd oes am 27 diwrnod.

"Roedd nain yn ferch o'r Cymoedd, cafodd ei geni yn Nhonypandy," meddai wrth Newyddion S4C.

"Felly dwi'n meddwl ei fod yn addas i ddringo'r copa uchaf yn ne Cymru.

"Nain oedd calon ein teulu. Roedd mam yn 18 yn rhoi genedigaeth i fi ac roedd nain a taid yn ei chefnogi hi a welais i nhw bob dydd tan i fi ymuno â'r fyddin yn 18 oed.

"Mae'r hosbis lle derbyniodd nain ei gofal yn costio £15,000 y diwrnod i'w rhedeg, sydd yn £5.3 miliwn y flwyddyn.

"Traean o'r arian yn unig sydd yn dod gan y GIG, mae'r pres eraill yn dod trwy gyfraniadau ac ymgyrchoedd codi arian."

Image
Roedd nain Carl yn golygu cymaint iddo. Llun: Carl Thompson
Roedd nain Carl yn golygu cymaint iddo. (Llun: Carl Thompson)

'Balch'

Nid dyma'r tro cyntaf i Carl benderfynu herio ei hun trwy ddringo neu gerdded.

Yn 2023 fe gerddodd o gwmpas Cymru gyfan, sef 1,047 o filltiroedd, a hynny tra'n cerdded 60 pwys ar ei gefn.

Hefyd mae'n aelod o'r Peirianwyr Brenhinol yn y fyddin, swydd sydd yn cynnwys adeiladu a dymchwel strwythurau, clirio rhwystrau, a darparu seilwaith hanfodol mewn brwydrau.

Fe fydd Carl yn cychwyn ar yr her am 08:00 fore Gwener, gyda'i gariad a'i theulu ym maes parcio Pen y Fan i'w gefnogi.

Bydd y daith gyfan tua 118 milltir o bellter a 14,550m mewn uchder, ac fe fyddai nain Carl wedi "caru'r" her meddai.

"Byddai nain wrth ei bodd gyda'r her yma, a dweud y gwir byddai hi'n caru o," meddai.

"Fe fyddai hi ddim wedi synnu bod fi'n gwneud yr her yma, byddai hi wedi chwerthin a dweud 'dyma her arall mae'n gwneud'."

Image
Bydd Carl yn dringo 111 o filltiroedd ar yr her. (Llun: Carl Thompson)
Bydd Carl yn dringo 111 o filltiroedd ar yr her. (Llun: Carl Thompson)

'Meddyliol heriol'

Mae Carl yn disgwyl i'r her gymryd tua thri diwrnod, gan orffen ddydd Llun trwy gerdded fyny a lawr am y tro olaf gyda'i daid.

Dros y penwythnos mae disgwyl i amodau yn ardal Pen y Fan fod yn heriol, gyda rhagolygon am wynt a glaw.

Gyda'r clociau newydd droi 'nôl, bydd yr haul yn machlud tua 17:00 a ddim yn codi tan 07:00.

"Yn feddyliol bydd hwn yn anodd, a hynny oherwydd y rhesymau tu ôl gwneud yr her," meddai.

"Ond hefyd, de Cymru ym mis Tachwedd, roeddwn i yn cerdded Pen y Fan wythnos diwethaf i baratoi ac roedd yr amodau yn anodd.

"Byddai'n disgwyl cerdded 14 awr yn y tywyllwch, a bydd hynny'n llawer o amser ben fy hun, gydag amser i feddwl ac adlewyrchu ar bethau, fydd yn anodd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.