Trefnu gwirfoddoli mewn angladdau ble nad oes teulu

Nick Horler/angladdau

Mae trigolion yn Nhorfaen wedi dod at ei gilydd gyda chynllun i sicrhau fod pobl ar gael i roi teyrngedau mewn angladdau pan nad oes disgwyl i unrhyw un fod yn bresennol i ffarwelio gydag unigolyn sydd wedi marw.

Y bwriad yw bod y grŵp o wirfoddolwyr ar gael i fynd i angladdau pobl leol pe na bai ganddynt unrhyw deulu neu ffrindiau i fynychu.

O dan amgylchiadau o’r fath, y cyngor lleol sy’n gyfrifol am drefnu angladd yr unigolyn.

Fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gynharach eleni ar ôl i ddyn lleol, Christian Griffin, awgrymu’r syniad.

Ers mis Ebrill mae’r cynghorydd annibynnol Nick Horler (prif lun) wedi bod yn cydweithio gyda Mr Griffin o Flaenafon er mwyn datblygu cynlluniau gyda’r cyngor.

Dyw Cyngor Torfaen ddim wedi bod mewn sefyllfa ble roedd rhaid iddynt drefnu unrhyw angladdau ers cymeradwyo’r cynlluniau yn gynharach eleni, medd Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd ac Amgylchedd y cyngor.

Ond roedd yn rhaid i'r cyngor drefnu tri angladd y llynedd, ychwanegodd. 

'Urddas a pharch'

Mewn adroddiad, dywedodd Mr Morelli bod swyddogion yn ceisio trefnu angladdau mewn modd “urddasol a pharchus.” 

Ond roedd yn cydnabod bod rhai angladdau’n cael eu cynnal heb neb yn bresennol a bod hynny’n codi “pryderon am urddas ac unigrwydd” ar ddiwedd oes.

Pe bai i’r cyngor yn cael gwybod am ffrindiau neu deulu ar ôl i drefniadau gael eu gwneud gan y cyngor, fe fyddan nhw’n parhau i fwrw ymlaen gyda’r trefniadau. 

Ond nawr, pe bai'r cyngor yn cael gwybod am unrhyw deulu neu ffrindiau, fe fyddai’r cyngor yn cysylltu gyda’r gwirfoddolwyr fel eu bod yn gallu mynychu’r angladd. 

Mae’r cyngor yn bwriadu cydweithio â Chynghrair Wirfoddol Torfaen i recriwtio rhagor o wirfoddolwyr. 

'Helpu'

Dywedodd arweinydd Llafur y cyngor, Anthony Hunt, bod yr ymateb i’r cynllun yn “enghraifft dda o sut y gall syniad gan unigolyn gael ei droi’n bolisi.”

Dywedodd yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol, David Daniels, fod y cynllun yn atgoffa pobl fod unigrwydd yn rhan o fywyd i rai, gan ychwanegu:

“Rydym am helpu cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, ac mae digonedd o adnoddau ar gael i’r bobl hynny.”

Ni fydd unrhyw gost ychwanegol i’r cyngor fel rhan o’r cynlluniau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.