Newyddion S4C

Euro 2025: Cymru i herio Wcráin ym Mharc y Scarlets

31/05/2024

Euro 2025: Cymru i herio Wcráin ym Mharc y Scarlets

Bydd Cymru yn anelu i barhau gyda'u rhediad o beidio colli yn ystod ymgyrch rhagbrofol Euro 2025 pan fyddant yn herio Wcráin ym Mharc y Scarlets nos Wener.

Nid yw tîm Rhian Wilkinson wedi ildio gôl yn eu dwy gêm agoriadol yn erbyn Croatia a Kosovo.

4-0 a 6-0 oedd canlyniadau'r gemau hynny, sydd yn golygu bod Cymru ar frig grŵp B4.

Wcráin sydd yn ail yn y grŵp ac maen nhw wedi curo Kosovo ond hefyd colli i Croatia.

Bydd Cymru yn herio eu gwrthwynebwyr nos Wener yn y cymal oddi cartref ar 4 Mehefin yn Stadion Respect Energy ger Poznan yng Ngwlad Pwyl.

Capten

Mae Sophie Ingle wedi ei chynnwys yn y garfan yn ogystal â chwaraewyr cyfarwydd eraill fel Jess Fishlock ac Angharad James.

Fe roddodd Ingle y gorau i fod yn gapten Cymru ym mis Ebrill.

Dyw Rhian Wilkinson ddim wedi cyhoeddi eto pwy fydd yn ei holynu fel capten llawn amser ond mae hi wedi dewis Angharad James i fod yn gapten nos Wener.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd y chwaraewr canol bod cael ei dewis i fod yn gapten dros ei gwlad yn foment wych.

“Mae fe’n foment gwych i fi a fy nheulu.

“Dwi’n gywbod fod Rhian (Wilkinson) heb wneud penderfyniad eto, tydi hi heb gael y cyfle i nabod ni i gyd a mae’n bwysig iddi wneud hwnna.

“Mae shwt gymaint o gapteiniaid alle fod yn y grŵp yma o’r chwaraewyr ifanc i’r chwaraewyr sydd wedi bod yma yn sbel.

“Ond mae’n foment gret i fi a dwi mor falch i gael y cyfle i gerdded y merched allan.”

Gweddill y garfan

Ni fydd ymosodwr Crystal Palace, Elise Hughes, ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Wcráin wedi iddi ddioddef anaf wrth chwarae i'w chlwb.

Ond mae Carrie Jones a Safia Middleton-Patel yn dychwelyd i'r garfan.

Mae pedair o ferched wedi cael eu galw i'r garfan am y tro cyntaf; Poppy Soper, Ellen Jones, Olivia Francis a Tianna Teisar.

Dyma'r garfan yn llawn:

Olivia Clark, Laura O’Sullivan, Safia Middleton-Patel, Poppy Soper, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Mayzee Davies, Lily Woodham, Ella Powell, Sophie Ingle, Alice Griffiths, Angharad James, Lois Joel, Rachel Rowe, Carrie Jones, Ffion Morgan, Jess Fishlock, Ceri Holland, Ellen Jones, Kayleigh Barton, Mary McAteer, Olivia Francis, Tianna Teisar.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.