Newyddion S4C

Sophie Ingle yn rhoi’r gorau i fod yn gapten ar Gymru ar ôl naw mlynedd

07/04/2024
Sophie Ingle

Mae Sophie Ingle wedi cyhoeddi y bydd hi’n rhoi’r gorau i fod yn gapten ar Gymru wedi naw mlynedd yn y rôl.

Mae’r amddiffynnwr sydd wedi ennill 120 o gapiau dros ei gwlad wedi bod yn gapten ers 2015.

Yn dilyn buddugoliaeth 4-0 Cymru dros Groatia ddydd Gwener cyhoeddodd nad oedd hi am fod yn “farus” a'i bod am roi’r cyfle i rywun arall wisgo band braich y capten.

“Mae wedi bod yn naw mlynedd gorau fy ngyrfa yn cael cynrychioli fy ngwlad ac yn arwain y grŵp hwn o ferched,” meddai.

“Ond rwy'n meddwl mai dyma'r amser iawn nawr wrth i ni fynd i mewn i'r ymgyrch newydd ac mae gennym ni arweinwyr ar draws y tîm i gyd, a dydw i ddim yn meddwl ei fod o bwys pwy sy'n gwisgo'r band braich. 

“Dwi wastad wedi teimlo felly. Fel y dywedais, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i'w wneud ers naw mlynedd ac mae braidd yn farus os dwi'n onest. 

“Felly dwi'n meddwl ei fod yn iawn ei drosglwyddo i rywun arall a gadael iddyn nhw brofi'r hyn rydw i wedi'i brofi dros y naw mlynedd diwethaf oherwydd mae'n mynd i fod yn ddiwrnod balch iddyn nhw a'u teulu.

“Ac rydw i eisiau iddyn nhw brofi popeth wnes i, yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau a'r arweinyddiaeth sy'n dod gyda hynny a'r cyfrifoldeb o fod yn gapten newydd i Gymru.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i Rhian Wilkinson gymryd drosodd fel capten ar ddechrau ymgyrch rhagbrofol Euro 2025.

Roedd dros 4,000 o gefnogwyr yn gwylio'r gêm ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Wener wrth i Gymru ddechrau gyda buddugoliaeth gyfforddus o bedair gôl i ddim yn erbyn Croatia.

Mae Cymru ar frig y grŵp ac fe fyddant yn herio Kosovo yn eu gêm nesaf ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.