Newyddion S4C

Rhian Wilkinson yn cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Wcráin a Kosovo

22/05/2024
Merched Cymru

Mae rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson, wedi cyhoeddi'r garfan sydd yn wynebu Wcráin a Kosovo yng ngemau rhagbrofol Euro 2025.

Fydd ymosodwr Crystal Palace, Elise Hughes, ddim ar gael wedi iddi ddioddef anaf wrth chwarae i'w chlwb.

Ond mae disgwyl i Carrie Jones a Safia Middleton-Patel ddychwelyd i'r garfan.

Mae pedair o ferched wedi cael eu galw i'r garfan am y tro cyntaf; Poppy Soper, Ellen Jones, Olivia Francis a Tianna Teisar.

Mae Sophie Ingle wedi ei chynnwys yn y garfan yn ogystal â chwaraewyr cyfarwydd eraill fel Jess Fishlock ac Angharad James.

Fe roddodd Ingle y gorau i fod yn gapten Cymru ym mis Ebrill.

Dyw Rhian Wilkinson ddim wedi cyhoeddi eto pwy fydd yn ei holynu fel capten.

Mae Cymru wedi dechrau eu hymgyrch yn dda gyda buddugoliaethau o 4-0 yn erbyn Croatia a 6-0 yn erbyn Kosovo.

Maen nhw ar frig eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd.

Bydd tîm Rhian Wilkinson yn herio Wcráin ym Mharc y Scarlets ar 31 Mai ac yna yn teithio i Stadion Respect Energy ger Poznan yng Ngwlad Pwyl i wynebu Wcráin.

Dyma'r garfan llawn:

Olivia Clark, Laura O’Sullivan, Safia Middleton-Patel, Poppy Soper, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Mayzee Davies, Lily Woodham, Ella Powell, Sophie Ingle, Alice Griffiths, Angharad James, Lois Joel, Rachel Rowe, Carrie Jones, Ffion Morgan, Jess Fishlock, Ceri Holland, Ellen Jones, Kayleigh Barton, Mary McAteer, Olivia Francis, Tianna Teisar.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.