Newyddion S4C

Cwblhau taith 'wna i fyth anghofio' i Everest er cof am dad

14/05/2024
Ioan Jones yn Base Camp Everest

Mae bachgen 18 oed o Ynys Môn wedi cerdded i Wersyll Cychwyn Everest ar ôl colli ei dad i hunanladdiad bedair blynedd yn ôl.

Dechreuodd Ioan Jones ar y daith 5,364 medr yn Nepal ar 31 Mawrth.

Pwrpas y daith oedd codi arian ac ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ymysg pobl ifanc a hyrwyddo pwysigrwydd siarad am broblemau a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Collodd Ioan a'i frawd Llion eu tad yn ystod pandemig Covid-19.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ym mis Hydref 2023 bod methu gweld ffrindiau a rhai aelodau o'i deulu ar y pryd yn anodd.

"Oedd hynna yn anodd achos do’n i methu gweld pawb, rhai teulu a ffrindiau felly oedd huna yn neud o hyd yn oed mwy anodd."

'Diolchgar iawn'

Wedi iddo gwblhau'r daith a chodi dros £5,000 ar gyfer yr elusen iechyd meddwl Shout, mae wedi dweud bod yr elusen wedi bod o gymorth mawr iddo pan fu farw ei dad.

"Mae elusennau fel Shout yn anhygoel. Dyma'r unig wasanaeth tecst sydd am ddim, yn gyfrinachol ac yn fyw 24/7 i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl.

"Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth am yr elusen hon ond hefyd annog pobl ifanc i chwilio am gymorth os ydyn nhw'n cael trafferth. Ers dychwelyd o’r daith, dwi wedi cael cynnig i siarad mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am y materion hyn, sydd wedi bod yn wych.

“Rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr achos. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi codi £5,060, a dwi’n gobeithio gallwn barhau i godi mwy.

"Roedd yn gyfle anhygoel i heicio i Base Camp, mi fydd yn daith na wna i fyth anghofio."

Mae mam Ioan Jones, Kelly Jones yn falch iawn o'i mab.

"Mae Ioan yn ysbrydoliaeth - allwn i ddim bod yn fwy balch ohono. Mae wedi gallu canolbwyntio ar rywbeth positif i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl pobl iau, sy'n anhygoel."

'Trïo fy ngorau'

Wrth baratoi am y daith ym mis Hydref, dywedodd Ioan Jones wrth Newyddion S4C ei fod yn meddwl y byddai ei dad yn falch ohono.

“Dwi'n meddwl ‘sa fo’n falch iawn, bo fi’n trïo fy ngorau i wneud gwahaniaeth yn y byd yma ac i geisio helpu pobl eraill sy’n mynd trwy bethau anodd.

“Oedd dad yn athletig i ryw raddau, oedd o'n chwarae rygbi ac o'n i yn o’r blaen ond doedd o ddim yn rhedeg.

“Mae’r gefnogaeth dwi wedi cael yn anhygoel a dwi mor werthfawrogol ond mae o hefyd yn dangos pa mor bwysig ydy’r pwnc achos mae o mor bwysig.

“Neges fi i rywun sy’n mynd trwy amser caled ydi mynd allan i’r awyr agored a siarad am beth sy’n poeni nhw- mae hynny wedi helpu fi lot dros y blynyddoedd diwethaf. 

Os ydi cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth ar wefan S4C.

Llun: Ioan Jones / Ateb Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.