Colli dad i hunanladdiad: ‘Mae’n bwysig siarad am deimladau’
Colli dad i hunanladdiad: ‘Mae’n bwysig siarad am deimladau’
Mae bachgen 17 oed yn annog pawb i siarad yn agored am eu teimladau a'u heriau iechyd meddwl ar ôl i’w dad gymryd ei fywyd ei hun dair blynedd yn nôl.
“Dwi’n gwybod o brofiad personol bod angen siarad mwy am y pwnc,” meddai Ioan Jones o Ynys Môn wrth Newyddion S4C.
Bu farw ei dad yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020, pan oedd Ioan yn 14 oed.
“Oedd huna yn anodd achos do’n i methu gweld pawb, rhai teulu a ffrindiau felly oedd huna yn neud o hyd yn oed mwy anodd.”
Cafodd 5,583 o hunanladdiadau eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn 2021, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
'Siarad'
Mae Ioan yn teimlo ei bod hi’n bwysig bod pobl yn siarad yn onest am eu profiadau ac am eu teimladau.
“Mae o mor bwysig bod siarad am iechyd meddwl yn rwbath normal, a dwi'n meddwl bod yn bwysig bod fi fel person ifanc yn neud hyn ac yn dangos bod angan siarad allan yn ifanc neu hen mae’n bwysig bod pawb yn siarad allan. Dyn neu ddynes, mae rhannu teimladau yn bwysig.”
Bydd Ioan yn ymgymryd â her yn Nepal, pan fydd yn cerdded i Wersyll Cychwyn Everest ar 31 Mawrth, 2024 er mwyn casglu arian gyfer yr elusen iechyd meddwl, Shout.
Bydd y daith yn cymryd tua phythefnos i'w chwblhau ac yn golygu teithio i uchder o 5,500m uwchben lefel y môr.
“Mae yn dychryn fi ychydig bach meddwl am fynd i le diarth ond dwi’n edrych ymlaen am y sialens ac yr antur.
“Mae 'na lot o ymarfer yn cael ei 'neud yn enwedig efo’r uchder felly wrth gwrs mae rhaid ymarfer corff ac ymarfer y meddwl hefyd.”
'Paratoi'
Er mwyn paratoi mae Ioan wedi bod yn cymryd rhan mewn nifer o heriau anodd.
Yn barod mae Ioan wedi beicio 100 milltir yn y Tour De Môn, Her Chwe Llwybr yr Wyddfa a chwblhau marathonau ‘ultra’, wedi neud y ‘Manchester Ultra Loop’, sydd yn golygu 8 awr o redeg, ac mae mwy i ddod.
“Mae o yn bwysig i ddangos i fi fy hun bod fedrai ddod dros y pethau ofnadwy sydd wedi digwydd i fi yn fy mywyd a dal neud pethau anhygoel i ysbrydoli eraill ac i byth rhoi'r gorau iddi a byth ildio.
“Dwi’n ymarfer corff bob dydd a dwi’n teimlo yn well ar ôl 'neud.
“Dwi'n meddwl bod cymdeithas yn fwy agored 'wan, dwi’n siarad yn agored efo teulu ac mae o yn bwysig bod pobl yn siarad efo teulu a ffrindiau.”
Mae Ioan yn edrych ymlaen ar yr her ac yn falch o’i ymdrech i godi arian ar achos da.
“Dwi’n meddwl neith cofio am yr elusen gadw fi fynd yn ystod yr her, dim ots be, nai neud yn siŵr bod fi’n cwblhau o achos dwi neud o i achos mor arbennig.”
'Falch iawn'
Ychwanegodd ei fod yn meddwl y byddai ei dad yn falch o honno.
“Dwi'n meddwl ‘sa fo’n falch iawn, bo fi’n trio fy ngorau i wneud gwahaniaeth yn y byd yma ac i geisio helpu pobl eraill sy’n mynd trwy bethau anodd.”
“Oedd dad yn athletig i ryw raddau, oedd o'n chwarae rygbi ac o'n i yn o’r blaen ond doedd o ddim yn rhedeg.
“Mae’r gefnogaeth dwi wedi cael yn anhygoel a dwi mor werthfawrogol ond mae o hefyd yn dangos pa mor bwysig ydy’r pwnc achos mae o mor bwysig.
“Neges fi i rywun sy’n mynd trwy amser caled ydi mynd allan i’r awyr agored a siarad am beth sy’n poeni nhw- mae hynny wedi helpu fi lot dros y blynyddoedd diwethaf.