Pump wedi marw ar ôl i gar gael ei yrru i ganol torf mewn marchnad Nadolig yn yr Almaen
Pump wedi marw ar ôl i gar gael ei yrru i ganol torf mewn marchnad Nadolig yn yr Almaen
Mae pump o bobl, gan gynnwys plentyn naw oed, wedi marw a nifer wedi'u hanafu ar ôl i gar yrru i ganol torf mewn marchnad Nadolig yn yr Almaen.
Dywedodd awdurdodau'r Almaen fore dydd Sadwrn fod mwy na 200 o bobl wedi'u hanafu, gyda nifer ohonynt wedi'u hanafu'n ddifrifol.
Roedd y digwyddiad wedi cymryd lle yn ninas Magdeburg yn nhalaith Saxony-Anhalt yng ngogledd ddwyrain y wlad ddydd Gwener.
Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos nifer o bobl wedi eu hanafu ar lawr, gyda'r gwasanaethau brys yn cynnig cymorth gerllaw.
Cafodd dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad.
Mae’r dyn sy’n cael ei amau am yr ymosodiad wedi’i enwi ar gyfryngau’r Almaen fel Taleb A.
Mae cyfenwau yn cael eu dal yn ôl gan y cyfryngau yn yr Almaen yn unol â chyfreithiau preifatrwydd domestig.
Dywedodd prif swyddog talaith Sacsoni-Anhalt, Reiner Haseloff bod y dyn 50 oed sydd wedi’i arestio yn dod o Saudi Arabia yn wreiddiol ac wedi cyrraedd yr Almaen yn 2006 ac wedi gweithio fel meddyg.
Dywedodd fod ymchwiliad rhagarweiniol yn awgrymu bod y dyn yn gweithredu ar ben ei hun ond na allai ddiystyru marwolaethau pellach oherwydd y nifer o anafiadau.
Dywedodd: “Mae cymhelliad yr ymosodwr a amheuir yn aneglur, ac nid oes ganddo unrhyw gysylltiadau hysbys ag eithafiaeth Islamaidd - mae'n ymddangos bod cyfryngau cymdeithasol a phostiadau ar-lein yn awgrymu ei fod wedi bod yn feirniadol o Islam.
“Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'n droseddwr unigol, ac nad oes perygl pellach i'r ddinas hyd y gwyddom.”
Wrth ymweld â’r ddinas ddydd Sadwrn, dywedodd Canghellor yr Almaen Olaf Scholz: "Mae fy meddyliau gyda'r dioddefwyr a'u hanwyliaid. Rydym yn sefyll wrth eu hochr ac wrth ochr holl drigolion Magdeburg. Fy niolch i'r holl wasanaethau brys yn yr oriau anodd hyn."
Fe fydd gwasanaeth coffa i’r dioddefwyr yn Eglwys Gadeiriol Magdeburg.
Mae marchnadoedd Nadolig eraill ar draws y wlad wedi cau fel mesur rhagofal.
Mae lluniau fideo o'r digwyddiad yn dangos car yn cael ei yrru ar gyflymder i mewn i'r dorf.
Mae dinas Magdeburg i'r gorllewin o Berlin, a dyma yw prifddinas talaith Saxony-Anhalt.
Mae ganddi boblogaeth o tua 240,000.
Llun: Dörthe Hein / Getty Images