Arestio dyn yng Nghaerdydd ar ôl adroddiad o drywanu
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn ar ôl adroddiad o drywanu honedig yng nghanol Caerdydd nos Wener.
Cafodd swyddogion eu galw i far y Philharmonic yng nghanol y ddinas ar ôl adroddiadau fod dyn wedi ei drywanu yn ei ben.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi arestio dyn 26 oed ar amheuaeth o ymosod.
Ychwanegodd y llu: “Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am tua 00:10, dydd Sadwrn Rhagfyr 21, i ymosodiad honedig a ddigwyddodd yn y bar Philharmonic ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd.
“Cafodd y dioddefwr rwygiad i'w dalcen. Mae dyn 26 oed o Gaerdydd wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod.”