Galw ar y llywodraeth i ystyried hygyrchedd polisïau newydd i ffermwyr hŷn

Galw ar y llywodraeth i ystyried hygyrchedd polisïau newydd i ffermwyr hŷn

Mae angen ystyried sut mae polisïau newydd yn cael eu datblygu a'u cyfathrebu i ffermwyr, medd un ffermwraig o Fôn.

Mae Elen Gwen Williams yn galw am eglurder pan mae hi’n dod i bolisïau newydd, yn enwedig ar gyfer y cenadaethau hŷn o ffermwyr o fewn y diwydiant.

Mae oedran cyfartalog ffermwyr yng Nghymru dros 60, ac mae pryder dros allu'r ffermwyr hŷn i gael mynediad i bolisïau newydd ar y we.

“Dwi’n derbyn nad ydi hi’n bosib plesio pawb, ond mae angen eglurder ar ffermwyr ar draws Cymru er mwyn i ni allu cynllunio ymlaen,” meddai ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C. 

“Oed cyfartalog ffermwr yng Nghymru yw 61, ac felly nid pawb sydd efo mynediad i’r we a chyrsiau ar lein- mae angen i’r llywodraeth geisio gwneud hi’n haws i ffermwyr ddilyn y polisïau newydd yma.” 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i “wrando ar leisiau a phrofiadau ffermwyr hŷn”.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, “Mae’n hanfodol bod llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar leisiau a phrofiadau ffermwyr hŷn er mwyn datblygu a darparu gwasanaethau sy’n adlewyrchu eu hanghenion, ac sy’n hawdd cael gafael arnynt os oes angen,” meddai. 

“Ochr yn ochr â hyn, mae angen i ni hefyd roi allgymorth rhagweithiol ar waith i sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y rhai mwyaf ynysig neu anoddaf eu cyrraedd.”

Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi bod dan ddatblygiad ers saith mlynedd, er mwyn disodli hen system gymorthdaliadau'r Undeb Ewropeaidd.

Nod y cynllun newydd yw gwobrwyo arferion cynaliadwy o amaethu, a darpariaeth sydd "er lles cyhoeddus" fel cynefinoedd bywyd gwyllt ac amsugno carbon yn y tir.

Ar gyfer y taliad cyffredinol, bydd raid i ffermwyr gytuno i 12 o ofynion sy'n cynnwys cynllunio i wella ansawdd y pridd ac ymgymryd â chyrsiau datblygiad proffesiynol ar ffermio cynaliadwy.

‘Esgid yn gwasgu’

Yn ôl Elen mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod ansicr i’r diwydiant ac yn parhau i fod gyda nifer o bolisïau gwahanol yn cael eu cyflwyno. 

Mae Elen eisiau gweld polisïau sydd yn cyrraedd pawb yn enwedig mewn cyfnod lle mae’r “esgid yn gwasgu yn fwy nag erioed."

“Mae cynnydd mewn costau byw fel prisiau tanwydd, trydan, bwyd anifeiliaid yn gwneud hi’n anodd gwneud elw o’n cynnyrch,” meddai. 

Rhwng 2023 a 2024 roedd gan 24% o ffermydd yng Nghymru Enillion Busnes Fferm negyddol, sy’n golygu eu bod nhw wedi methu gwneud elw neu wedi colli arian. 

Ac yn ôl mudiad yr NFU, fe wnaeth incwm ar draws pob math o fferm yng Nghymru ostwng 34% ar gyfartaledd.

Roedd mewnforion cig defaid y DU wedi codi 40% yn ystod 2024, gan gyrraedd 67,880 tunnell, sef y lefel uchaf ers 2018.

Ychwanegodd Elen: “Yn fy marn i  mae angen i’r llywodraeth fynd yn bellach i roi ffermydd a chynnyrch Cymru yn gyntaf. Ond mae ffactorau fel costau cynnyrch a pholisïau yn effeithio ar fwy nag dim ond elw, ond iechyd a llesiant hefyd. 

“Dwi’n gwirfoddoli gyda sefydliad DPJ, elusen sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl ar gyfer cefn gwlad. Mae amaethyddiaeth yn cario un o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf.”

Ychwanegodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Gall unigrwydd a natur y gwaith a wneir gan ffermwyr ym mhob cwr o Gymru esgor ar heriau sylweddol, yn enwedig wrth i bobl heneiddio. 

Image
Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies

"Dyna pam mae’n hollbwysig bod ffermwyr yn cael y cymorth a’r gwasanaethau cywir i’w galluogi nhw i ddelio â’r problemau a’r pwysau y maen nhw’n aml yn eu hwynebu.

“Gallai hyn gynnwys mynediad at apwyntiadau iechyd i gefnogi iechyd corfforol, neu wasanaethau sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl. 

"Yn yr un modd, mae hefyd angen cymorth ehangach i chwalu rhwystrau eraill sy’n aml yn wynebu ffermwyr hŷn – fel unigrwydd, allgáu digidol, neu ddiffyg cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.

“Rwyf wedi siarad â nifer o ffermwyr hŷn ar hyd a lled Cymru sydd wedi tynnu sylw at yr anawsterau maen nhw’n aml yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar y mathau hyn o wasanaethau a chymorth, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd, eu llesiant a’u gallu i barhau i ffermio.” 

‘Cefnogi ffermwyr’

Dywed Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithio'n helaeth gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn hygyrch i bob ffermwr. 

"Byddwn yn cefnogi ffermwyr drwy'r trawsnewid i'r SFS ac wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr sy'n amlinellu gofynion y cynllun a phrosesau ymgeisio.

"Rydym wedi ymrwymo i ddyfodol ffyniannus i ffermio, wedi'i adeiladu ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymunedau gwledig cryf.

"Mae ein hinsawdd ffafriol yn ein gwneud mewn sefyllfa ddelfrydol i gynhyrchu cig coch o ansawdd uchel wrth gynnal lles rhagorol i anifeiliaid, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a hyrwyddo bioamrywiaeth. 

"Mae gwaith HCC i hyrwyddo cig coch Cymru yn hanfodol i gyflawni ein huchelgais ar y cyd o ddiwydiant proffidiol, arloesol a chystadleuol sy'n cefnogi'r economi wledig ehangach."

Mae Y Byd yn ei Le ar gael i'w wylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.