‘Ymuno â rhyfeloedd ar ôl i ni eu hennill’: Donald Trump yn ymosod eto ar Starmer

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi ymosod unwaith eto ar Syr Keir Starmer gan ddweud ei fod yn ceisio “ymuno â rhyfeloedd ar ôl i ni eu hennill yn barod”.

Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cyfeirio at adroddiadau fod y DU yn paratoi i anfon llong cludo awyrennau HMS Prince of Wales i’r Dwyrain Canol.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn paratoi HMS Prince of Wales pe bai angen y llong ond nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto.

Mae llong HMS Dragon eisoes yn Harbwr Portsmouth yn paratoi i hwylio ond does dim disgwyl iddi gyrraedd am rai wythnosau.

Fe gyhoeddodd Arlywydd yr Unol Daleithiau neges ar ei blatfform Truth Social: “Mae’r Deyrnas Unedig, ein cynghreiriad mawr ar un adeg, efallai’r mwyaf oll, o’r diwedd yn ystyried o ddifrif anfon dau gludwr awyrennau i’r Dwyrain Canol.

“Mae hynny’n iawn, Prif Weinidog Starmer, dydyn ni ddim eu hangen nhw mwyach - ond fe fyddwn ni’n cofio. 

“Dydyn ni ddim angen pobl sy’n ymuno â rhyfeloedd ar ôl i ni eu hennill yn barod!”

Ar ôl cerydd diweddaraf Mr Trump, fe wnaeth Downing Street gyfeirio’n ôl at sylwadau cynharach Syr Keir fod y berthynas arbennig “ar waith ar hyn o bryd”.

‘Ar waith’

Mae Donald Trump wedi bod yn feirniadol o benderfyniad y Prif Weinidog i beidio ag ymuno yn y gweithredu milwrol yn erbyn Iran.

Mae wedi galw ymateb Prydain yn “siomedig iawn” ac wedi dweud nad yw Keir Starmer yn “Winston Churchill”.

Mae Syr Keir wedi rhoi caniatâd ar gyfer gweithredu Americanaidd “amddiffynnol” yn erbyn safleoedd taflegrau Iran o ganolfannau yn y DU.

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr Unol Daleithiau wedi dechrau defnyddio canolfannau Prydeinig ar gyfer “gweithrediadau amddiffynnol penodol i atal Iran rhag tanio taflegrau i’r rhanbarth”.

Cyrhaeddodd y B-1 Lancer cyntaf, sydd yn 146 troedfedd o hyd, RAF Fairford yng Nghaerloyw nos Wener ac fe laniodd tri arall fore Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.