Wrecsam v Chelsea: 'Roedd VAR yn ein herbyn ni' medd Parkinson
Fe gafodd dau benderfyniad VAR effaith sylweddol yn y gêm rhwng Wrecsam a Chelsea yn rownd 16 olaf Cwpan yr FA nos Sadwrn yn ôl y rheolwr Phil Parkinson.
Fe gollodd Wrecsam o 2-4 yn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea wedi ymdrech arwrol.
Roedd hi'n 2-2 ar ddiwedd y 90 munud, gan olygu mai amser ychwanegol a chiciau o'r smotyn o bosib fyddai'n dyfarnu yr enillydd.
Fe wnaeth cerdyn melyn George Dobson ar ddiwedd y 90 munud gael ei newid i un coch yn sgil VAR, gan olygu fod yn rhaid i'r Dreigiau chwarae'r cyfnod amser ychwanegol gyda 10 dyn.
Dyma'r tro cyntaf i VAR gael ei ddefnyddio ar y Cae Ras, gan nad yw'r dechnoleg yn cael ei defnyddio yn y Bencampwriaeth.
Fe sgoriodd Alejandro Garnacho yn yr amser ychwanegol gan roi Chelsea ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, gyda gobeithion Wrecsam o sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn pylu erbyn hyn.
Roedd Wrecsam hefyd yn anlwcus wedi i gôl Lewis Brunt a fyddai wedi ei gwneud hi'n gêm gyfartal 3-3 gael ei dyfarnu fel cam-sefyll gan VAR.
Dywedodd un o sgorwyr y gêm, Sam Smith: "Fe wnaethon ni brofi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau mewn cyfnod byr o amser, a disgyn yr ochr anghywir i VAR.
"Dyma ein profiad cyntaf ni o hyn, a gobeithio dyma'r profiad olaf tan y tymor nesaf."
'Pwysig'
Ychwanegodd y rheolwr Phil Parkinson: "Heb VAR, ni fyddai un o'n chwaraewyr ni wedi gadael y cae ac fe fyddai'r gôl wedi ei chymeradwyo hefyd, felly mae'n ein herbyn ni heno.
"Dyma fy mhrofiad cyntaf ohono, a dwi'n gwybod mai'r rheol ydi fod yn rhaid iddo fod yn benderfyniad clir ac amlwg i'r penderfyniad gael ei newid - a dwi'n meddwl fod yn rhaid i'r dyfarnwr gefnogi ei ddyfarniad amser real.
"Roedd mewn safle perffaith i'w weld."
Ychwanegodd Parkinson nad oedd yn gweld bai ar Lewis Brunt am gyffwrdd peniad Kieffer Moore a arweiniodd at beidio â chaniatáu'r gôl.
Fe wnaeth fynnu hefyd na fyddai'r siom yn effeithio ar ymgyrch Wrecsam i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.
"Dwi wastad eisiau fy nhîm a'u perfformiad i adlewyrchu'r dref, fel bod pobl yn gwybod am beth mae Wrecsam yn sefyll," meddai.
"Fe wnaethon ni hynny heno, ac mae hynny yn ofnadwy o bwysig."