Hofrennydd yn cludo dyn o draeth yn Sir Benfro

Hofrennydd Traeth

Fe gafodd dyn oedd yn ymddangos fel pe bai yn dioddef o hypothermia ei gludo o draeth yn Sir Benfro mewn hofrennydd ddydd Sadwrn.

Roedd y dyn ar lwybr arfordirol deheuol Sir Benfro ger Porth Lliw, tua saith milltir i’r gorllewin o Ddinbych y Pysgod.

Roedd parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Heddlu Dyfed-Powys yno, a galwyd Gwylwyr y Glannau a’r Bad Achub Brenhinol tua 09:00.

“Unwaith y cafodd y claf ei sefydlogi, penderfynwyd, oherwydd maint y tonnau ar y traeth bod mynd ag o oddi yno ar y môr yn rhy beryglus,” meddai llefarydd ar ran Bad Achub Brenhinol Dinbych y Pysgod.

“Roedd natur y mynediad i'r traeth hefyd yn golygu y byddai'n anodd iawn cario'r claf i fyny at yr ambiwlans, felly gofynnwyd am hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau.

“Glaniodd yr hofrennydd ar y traeth a llwythwyd y claf, ynghyd â Pharafeddygon ac yna gollyngwyd ef yn agos at yr ambiwlans ar y penrhyn uwchben.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.