Apêl am wybodaeth am lofruddiaeth o 1979 sydd heb ei datrys

John Armstrong

Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud apêl am wybodaeth am lofruddiaeth gyrrwr tacsi yn ardal Pen-y-bont dros 40 mlynedd yn ôl.

Fis Hydref 1979 fe gafodd John ‘Jack’ Armstrong ei ganfod yn farw ar ôl casglu cwsmer o Gaerdydd yn ei dacsi.

Mae ei farwolaeth wedi cael ei adolygu’n rheolaidd gan uned adolygu troseddau arbenigol Heddlu De Cymru ac mae’r tîm yn ymchwilio i’w farwolaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Matt Davies: “Rydym wedi bod yn adolygu’r llofruddiaeth yma, sydd heb ei ddatrys, ers sawl blwyddyn ac mae’r achos wedi denu sylw’r cyfryngau ac wedi ymddangos mewn cyfres deledu.

“Yn drasig, mae ei ferch Jean, a wnaeth ddatgan ei dymuniad i ddod o hyd i lofrudd ei thad wrth ymddangos yn y rhaglen ddogfen, wedi marw yn ddiweddar cyn iddi allu sicrhau cyfiawnder dros ei thad.”

Ar 5 Hydref 1979, fe wnaeth Mr Armstrong ddweud dros y radio ei fod wedi casglu cwsmer o dafarn Fairwater. Dyna oedd y tro olaf i unrhyw un glywed ganddo.

Cafodd ei dacsi ei ddarganfod yn hwyrach y noson honno ym mhentref Treoes, yn agos i ystâd ddiwydiannol Waterton, ym Mhen-y-bont.

Roedd llawer o waed wedi’i ganfod yn y tacsi.

Daeth swyddogion o hyd i gorff Mr Armstrong dri diwrnod yn ddiweddarach, ryw 11 milltir i ffwrdd, ar dir comin yn y Bont Faen. Roedd Mr Armstrong wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben.

Er i’r heddlu gymryd cannoedd o ddatganiadau ac archwilio nifer o eitemau fel rhan o ymchwiliad eang, ni ddaeth swyddogion o hyd i lofrudd Mr Armstrong.

Fel rhan o’r adolygiad, bydd rhai eitemau yn cael eu hail-archwilio, ac mae ditectifs wedi holi tystion unwaith eto.

Ychwanegodd DCI Davies: “Os yw’r llofrudd dal yn fyw, yna maen nhw’n byw gyda’r hyn y maen nhw wedi ei wneud ers bron i 47 o flynyddoedd. Hoffwn apelio i unrhyw un sydd yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol i wneud y peth iawn a dod ymlaen.”

Mae modd rhannu gwybodaeth am yr achos drwy gysylltu â’r llu ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod 2000304349.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.