Ysbyty Gwynedd: 'Heriau'n parhau' i wynebu uned iechyd meddwl, er gwelliant mewn gofal
Mae safon uned iechyd meddwl yn Ysbyty Gwynedd wedi gwella ers 2023 – ond mae “heriau’n parhau,” yn ôl arolygiad.
Dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fod ansawdd y gofal iechyd meddwl ar Uned Hergest wedi gwella “rhywfaint” ers yr arolygiad dirybudd diwethaf ddwy flynedd yn ôl.
Fe aeth arolygwyr i’r uned ym mis Medi 2025, gan ymweld â wardiau Aneurin, Cynan, a Taliesin, yn ogystal ag Ystafell Iechyd Meddwl yr uned.
Cafodd staff eu canmol am ddarparu gofal parchus gan gwrdd ag anghenion cleifion hyd yn oed mewn “amgylchiadau heriol.”
Ac roedd gallu’r staff i gyfathrebu drwy’r Gymraeg a Saesneg hefyd yn “gryfder penodol” ar yr uned, meddai’r arolygwyr.
Er hynny, nododd yr adolygiad “nifer o feysydd i’w gwella” hefyd.
Roedd problemau i’w wneud gyda staffio, cadw cofnodion cleifion ac “amgylchedd cyffredinol” yr uned, ychwanegodd yr adroddiad.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod yna "agweddau cadarnhaol" o ran ansawdd y gofal ar Uned Hergest.
“Fodd bynnag, mae meysydd i'w gwella wedi'u nodi, fel gweithgareddau therapiwtig strwythuredig, gwybodaeth gliriach i gleifion, prosesau cadw cofnodion, a heriau penodol o ran yr amgylchedd a staffio.
“Bydd AGIC yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau yr eir i'r afael â'r materion hyn a chefnogi gwelliannau parhaus i ofal a diogelwch y cleifion."
Pryderon
Ymhlith rhai o’r gwendidau mwyaf ar Uned Hergest oedd diffyg cynnydd o ran darparu rhaglenni a gweithgareddau therapiwtig er lles iechyd meddwl cleifion.
Dywedodd yr arolygwyr y dylai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bellach flaenoriaethu creu amserlen ar gyfer gweithgareddau rheolaidd strwythuredig, gan sicrhau bod digon o staff ar gael i’w cynnal.
Roedd staff wedi codi pryderon am argaeledd adnoddau a’r angen am fwy o bresenoldeb a chymorth gan yr uwch-reolwyr.
Nodwyd bod absenoldeb parhaus seicolegydd ar y wardiau yn fwlch sylweddol mewn gofal, a bod prinder staff cyson wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar staff asiantaeth dros dro.
Roedd gwendidau hefyd o ran cadw cofnodion papur am anghenion cleifion, a allai effeithio ar eu diogelwch. Dywedodd yr adolygiad y dylai’r uned ystyried rhoi system cofnodion electronig ar waith i fynd i’r afael â hyn.
Roedd amgylchedd cyffredinol yr uned yn “peri pryder” i’r arolygwyr. Er ei fod yn lân ar y cyfan, roedd angen rhoi sylw i rai ardaloedd er mwyn cynnal amgylchedd diogel a therapiwtig, medden nhw.
Roedd canfyddiadau ychwanegol yn cynnwys materion yn ymwneud â storio meddyginiaeth, cadw cofnodion, ac anghysondebau o ran hyfforddiant staff, arfarniadau, a rheoli swyddi gwag.
'Adeiladu'
Mewn ymateb, dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei bod yn cydnabod y pwysigrwydd o fynd i’r afael a’r holl argymhellion.
“Er ein bod yn cael yn falch bod yr arolygwyr wedi nodi cynnydd ers yr arolygiad blaenorol yn 2023, rydym yn cydnabod bod yna feysydd sydd angen eu gwella ac yn cymryd hynny o ddifrif,” meddai.
“Mae ein staff yn Uned Hergest yn parhau i ddangos gwydnwch ac ymrwymiad i ddarparu gofal diogel a thosturiol, ac rydym yn ddiolchgar am eu hymroddiad.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a byddwn yn adeiladu ar yr elfennau cadarnhaol a nodwyd yn yr arolygiad hwn wrth fynd i’r afael â’r meysydd sydd angen sylw pellach, er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel.”
