‘Fframwaith mewn lle’ ar gytundeb dros yr Ynys Las, medd Trump
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd yn gollwng cynlluniau i ychwanegu tariff o 10% ar nwyddau o wyth gwlad Ewropeaidd ar ôl iddo ddatgan bod cytundeb posib mewn lle dros ddyfodol yr Ynys Las.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fercher, dywedodd Trump ei fod wedi "ffurfio fframwaith cytundeb yn y dyfodol mewn perthynas â'r Ynys Las" ar ôl trafodaethau gydag ysgrifennydd cyffredinol NATO.
Nid oes cadarnhad ynglŷn â manylion y fframwaith, ac nid oedd awgrym y byddai America yn meddiannu neu'n ennill rheolaeth dros yr ynys yn yr Arctig, sydd yn rhan o diriogaeth Denmarc.
Roedd Mr Trump wedi bygwth codi tariffau o 10% ar sawl gwlad, gan gynnwys y DU a Denmarc, o 1 Chwefror, oherwydd eu gwrthwynebiad i'w ymgyrch i gipio'r Ynys Las.
Ond mewn neges ar Truth Social, dywedodd: "Rydym wedi ffurfio fframwaith cytundeb yn y dyfodol mewn perthynas â'r Ynys Las, ac mewn gwirionedd, yr ardal Arctig gyfan.
"Byddai'r datrysiad hwn, os y bydd yn cael ei wireddu, yn un da iawn i Unol Daleithiau America, ac i holl wledydd NATO."
Daeth y datganiad ar ôl i Mr Trump wneud araith yng nghynhadledd Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, yn y Swistir.
Yn yr araith, fe ddiystyrodd yr arlywydd ddefnyddio grym i gipio'r Ynys Las - ond dywedodd y byddai trafodaethau'n parhau ar unwaith dros ddyfodol yr ynys.
Dywedodd wrth arweinwyr y byd yn Davos: "Mae'n debyg na fyddwn yn cael dim oni bai fy mod yn penderfynu defnyddio cryfder a grym gormodol, lle byddem yn gwbl anorchfygol.
"Ond ni wnaf hynny," meddai, mewn araith eang lle y gwnaeth o ddrysu sawl tro rhwng yr Ynys Las ag Gwlad yr Iâ.,
Yn ystod dros awr o araith, fe aeth Trump ymlaen i wneud honiadau am ddod ag wyth rhyfel i ben, creu ffermydd gwynt Tsieineaidd, trechu chwyddiant, a'r gyfradd dreth ar gwmnïau ynni Môr y Gogledd.
