Burnham yn annog yr SNP i 'gydweithio' ar ddatganoli grym tu hwnt i Gaeredin
Bydd Andy Burnham yn annog prif weinidog yr Alban i “gydweithio” i ddatganoli grym tu hwnt i’r senedd-dai yn San Steffan a Chaeredin yn ystod ymweliad â’r wlad.
Mae disgwyl i arweinydd Llywodraeth y DU “wneud cynnig” i John Swinney i gydweithio i sicrhau bod rhanbarthau a dinasoedd yr Alban yn rhan o’i ymdrechion i “ail-weirio” Prydain.
Ers dod yn brif weinidog dros yr haf, mae Mr Burnham wedi gwthio agenda o ddatganoli grym i ranbarthau, gan dynnu ar ei brofiad fel Maer Manceinion Fwyaf.
Mae hynny wedi codi cwestiynau ynghylch ei agwedd tuag at lywodraethau datganoledig presennol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Er iddo ddweud ei fod yn agored i geisiadau i ddatganoli grymoedd pellach i’r llywodraethau hynny, mae eraill yn pryder y byddai symud pwerau i lefel ranbarthol yn tanseilio’r deddfwrfeydd yng Nghaerdydd, Caeredin a Belffast.
Daw ei ymweliad wrth i blaid Mr Swinney, yr SNP, ymgynnull ar gyfer eu cynhadledd flynyddol.
Mae’r blaid wedi galw ar Mr Burnham i gytuno i refferendwm arall ar annibyniaeth i’r Alban, gydag un o’i haelodau’n gwahodd arweinydd Llafur i’r gynhadledd i drafod y mater.
Ond mae Mr Burnham wedi bod yn llafar wrth amddiffyn yr undeb ac ar ymweliad i Lanarkshire ddydd, mae disgwyl iddo geisio perswadio Mr Swinney i gydweithio ar gynlluniau i ddatganoli grym i ranbarthau ar draws yr Alban.
“Yn ystod fy wythnos gyntaf yn y swydd, fe ddywedais i wrth y Prif Weinidog [John Swinney] fy mod i eisiau gweithio gydag ef i ledaenu cyfleon i gymunedau ar draws rhanbarthau a dinasoedd yr Alban,” meddai Mr Burnham.
“Drwy Rhif 10 y Gogledd, ‘dan ni’n ail-weirio’r wladwriaeth a dwi eisiau sicrhau fod rhanbarthau yn yr Alban yn rhan llawn o hyn.
“Dyma fi’n gwneud cynnig i Lywodraeth yr Alban. O weithio gyda’n gilydd, does dim diwedd i’r hyn allwn ni ei gyflawn dros bobl yr Alban.”
Daw ymdrechion Mr Burnham i drawsnewid y ffordd mae’r DU yn gweithio mewn cyfnod digynsail ble mae cenedlaetholwyr yn arwain y llywodraethau datganoledig presennol.
Fe wnaeth arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddatgan bod “amser San Steffan yn dod i ben” wrth gwrdd yng Nghaerdydd fis diwethaf.