Enwebiadau gwobrau sinema i dîm 'Effi o Blaenau' wrth i'r ffilm Gymraeg greu argraff
Mae aelodau o gast a thîm cynhyrchu Effi o Blaenau wedi derbyn enwebiadau mewn gwobrau sinema ym Mhrydain a thu hwnt, wrth i'r ffilm Gymraeg barhau i greu argraff ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae Leisa Gwenllian, sy'n serennu yn y cynhyrchiad, wedi ei henwi ar y rhestr hir ar gyfer gwobr Perfformiad Torri Drwodd (Breakthrough Performance) yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain (BIFA).
Cafodd yr actores glod arbennig gan y beirniaid am ei rôl yn y ffilm, sydd wedi torri'r record am y ffilm fwyaf poblogaidd yn Gymraeg yn y sinemâu ers cael ei rhyddhau yn ystod yr haf.
Un arall sydd wedi ei henwebu am BIFA am ei gwaith ar 'Effi o Blaenau' ydy Branwen Cennard, sydd yn y ras am wobr Cynhyrchydd Torri Drwodd (Breakthrough Producer) . Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddechrau Rhagfyr.
Mae'r ffilm hefyd wedi cael cydnabyddiaeth tu hwnt i'r DU gydag enwebiad i'w sinematograffydd yng ngŵyl CamerImage, sy'n cael ei chynnal yn ninas Toruń yng Ngwlad Pwyl.
Mae Eira Wyn Jones wedi ei henwebu yng nghystadleuaeth Ffilm Gyntaf Sinematograffydd (Cinematographers' Debuts) yn yr ŵyl, gyda'r enillydd i'w gyhoeddi ym mis Tachwedd.
Addasiad o Iphigenia in Splott, drama ddirdynol Gary Owen, ydy Effi o Blaenau.
Wedi’i chyfarwyddo gan Marc Evans a’i chynhyrchu gan Branwen Cennard, mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc sy'n byw mewn tref sydd wedi'i tharo'n galed gan golli diwydiant a chyfleoedd.
Wrth i fywyd Effi gymryd tro annisgwyl, mae'r stori'n edrych ar effaith tlodi a gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau.
Mae perfformiad Leisa Gwenllian yn y ffilm wedi denu sylw eang, ac yn gynharach eleni cafodd ei chynnwys ar restr Seren y Dyfodol gan gylchgrawn Screen International Film.