Parc bywyd gwyllt i ailagor am y tro cyntaf ers i deigr ladd ymwelydd

Teigr (Paul Harrop via Wikimedia Commons), arwydd Yorkshire Wildlife Park (Annabel Lee-Ellis/PA Wire)

Fe fydd parc bywyd gwyllt yng ngogledd Lloegr yn agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers i ddyn gael ei ladd gan deigr yn yr atyniad.

Bu farw William Chapman, 24, wedi iddo fynd mewn i ardal y teigrod yn Yorkshire Wildlife Park ger Doncaster ddydd Sadwrn.

Clywodd agoriad y cwest i'w farwolaeth fod gan Mr Chapman hanes o broblemau iechyd meddwl a diagnosis o sgitsoffrenia.

Mynegodd ei deulu bryderon am ei gyswllt â gwasanaethau iechyd meddwl cyn ei farwolaeth. Clywodd y gwrandawiad hefyd ei fod wedi cael cyfnodau o seicosis yn y gorffennol.

Mae Cyngor Dinas Doncaster, sy'n gyfrifol am reoli trwydded y sw, yn cynnal ymchwiliad iechyd a diogelwch a dywedodd swyddogion y byddan nhw'n rhannu'r canfyddiadau gyda'r crwner.

Fe gadarnhaodd Yorkshire Wildlife Park y bydd yr atyniad - gan gynnwys ardal y teigrod - yn ailagor ddydd Gwener, bron i wythnos wedi'r ymosodiad angheuol, wedi trafodaethau "gyda'r awdurdodau perthnasol."

Ardal teigrod ar agor

Dywedodd yr atyniad mewn datganiad eu bod yn parhau i helpu'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n ymchwilio i'r digwyddiad.

"Wrth inni groesawu ymwelwyr yn ôl, hoffwn ni ofyn i bawb ddangos dealltwriaeth a pharch tuag at ein staff, sydd wedi dangos proffesiynoldeb ac ymrwymiad rhyfeddol mewn cyfnod arbennig o anodd.

"Rydyn ni'n darparu cefnogaeth trawma arbenigol a gofal parhaus i'r rhai sydd wedi eu heffeithio."

Ychwanegodd y parc bod Altai, y teigr oedd yn rhan o'r digwyddiad, yn parhau'n flaenoriaeth i'w tîm gofal anifeiliaid. Cadarnhaodd y parc yn gynharach na fyddai'r anifail yn cael ei ddifa.

Image
William Chapman
William Chapman. Llun gan y teulu drwy law Heddlu De Swydd Efrog.

Cyhoeddodd teulu Mr Chapman deyrnged i'r gŵr ifanc ddechrau'r wythnos, gan ddweud ei fod yn unigolyn "disglair, cynnes a swynol".

Yn y datganiad nos Fawrth, dywedodd y teulu hefyd fod fideos yn ymwneud â'r digwyddiad sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein yn "achosi gofid mawr" iddyn nhw ar adeg pan maen nhw'n "arbennig o fregus".

"Rydyn ni'n gofyn i bobl roi'r gorau i wneud hyn."

Prif lun: Annabel Lee-Ellis/PA Wire, Paul Harrop, CC BY-SA 2.0 via Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.