Rhybudd melyn am law trwm i rannau o'r de
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i rannau o dde Cymru.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 08.00 ddydd Iau ac yn parhau hyd at 16.00.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai rhai'r amodau achosi llifogydd mewn rhai mannau a chreu trafferthion i deithwyr.
Mae disgwyl i rhwng 5-15 mm o law ddisgyn o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 20 mm yn bosib mewn rhai mannau.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
• Abertawe
• Blaenau Gwent
• Bro Morgannwg
• Caerdydd
• Caerffili
• Casnewydd
• Castell-nedd Port Talbot
• Merthyr Tudful
• Rhondda Cynon Taf
• Sir Fynwy
• Pen-y-bont ar Ogwr
• Powys
• Torfaen
