'Cymru wedi gweld ni': Holi gwir sêr Y Cyfweliad

Sêr Y Cyfweliad

Mae un o sêr y gyfres Y Cyfweliad ar S4C yn dweud ei fod yn “falch bod Cymru wedi gweld ni” wedi i’r darlledwr gyhoeddi y bydd ail gyfres yn cael ei chomisiynu.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwylwyr wedi gweld enwogion o Gymru yn cael eu holi gan griw o bobl sydd yn niwrowahanol, yn awtistig neu gydag anghenion dysgu.

Ymhlith y sêr a gafodd eu cyfweld roedd y cantorion Dafydd Iwan, Bronwen Lewis ac Elin Fflur, a'r cyn-chwaraewr rygbi Mike Phillips.

Yn cynnwys cwestiynau am ddillad isaf o’u dewis, i dreulio amser yn y carchar a heriau gyda beichiogi, “doedd ‘na ddim pwnc yn cael ei osgoi o gwbwl,” meddai un o’r holwyr, Terry Tuffrey o Flaenau Ffestiniog.

Image
Terry Tuffrey
Terry Tuffrey

Cyn i’r bennod olaf gael ei darlledu nos Fawrth, cafodd dangosiad arbennig ei gynnal ym Mlaenau Ffestiniog er mwyn i’r holwyr hollbwysig gael ei wylio cyn y cyhoedd.

Yn ystod y digwyddiad, fe gafodd y criw wybod bod S4C wedi comisiynu dwy gyfres ychwanegol o’r rhaglen. Roedd yr ymateb yn un unfrydol bositif.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd un o holwyr y rhaglen, Mair Jones o Benisarwaun, ei bod wedi mwynhau’r profiad o ffilmio’r rhaglen “yn arw”.

Yn byw gydag anghenion dysgu ysgafn o ganlyniad i oedi datblygiadol cyffredinol, mae Mair yn gweithio fel prentis gofal iechyd yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae o di bod yn brofiad grêt i bobol gal bod yn mwy ymwybodol o be ydi anghenion dysgu ag i pobol gal chwerthin, ella gal bach o dagrau.

“Achos ti ddim yn gweld o mor aml a di pobol ddim yn dallt be di anghenion dysgu, a mae o wedi bod yn grêt dwi’n meddwl i’r cynulleidfa adra gal gweld bod pobol efo anghenion dysgu yn gallu bod yn pobol clyfar iawn yn y byd.”

Image
Mair
Mair Jones yn holi Dafydd Iwan

Ychwanegodd Terry Tuffrey, sy'n 25 oed ac yn gweithio i gwmni teledu Tinopolis sy'n cynhyrchu'r rhaglen Heno: “Nes i wirioneddol fwynhau cael y profiad yma o allu cyfweld, ond hefyd meddwl am gwestiynau da ni wastad wedi bod eisiau gofyn wrth selebs.”

'Anhygoel'

Yn ogystal â holi selebs yn dwll, roedd yr holwyr yn cymryd rhan mewn perfformiadau cerddorol drwy’r gyfres.

Un arall oedd ymysg y gynulleidfa oedd Fflur Harman Pierce o Ddyffryn Nantlle. Rhai blynyddoedd yn ôl fe gafodd Fflur, sy’n 30 oed, ddiagnosis o awtistiaeth.

“Da chi di gweld y sioe, mae ‘na gymaint o bobol yma efo sgiliau anhygoel a wir dwi’n gallu gweld nhw’n mynd ymlaen i neud pethau anhygoel yn bywyd nhw. 

“A dwi’n mor falch bo fi di bod yn rhan o weld hyderon pobol yn tyfu, a dwi mor falch bod Cwmni Da ag S4C di rhoi’r siawns i’r pobol yma i gyd clywad llais ni.

“Achos lot o’r amsar, eiliad ti’n deud dy fod di’n niwrowahanol, neu efo ryw fath o anabledd dysgu, mae pobl yn llichio chi i’r cohr fel bo chi ddim yn matro a mae’n rili trist.

“Ond dwi’n falch bod Cymru di gweld rŵan we matter, a bod da ni efo rwbath i gyfrannu i bywyd pobol a dwi’n falch bo chi’n clywad ni.”

Fel comediwraig, mae Fflur yn gyfarwydd â pherfformio ar lwyfan.

Ond mae’r profiad o ganu ar gyfres deledu wedi’i hysgogi i feddwl am ddychwelyd i ganu – wedi i Bronwen Lewis ddweud bod ei pherfformiad o Yma o Hyd wedi rhoi “croen gŵydd” iddi hi.

Image
Fflur Pierce
Fflur Pierce yn canu 'Yma o Hyd' ar raglen Y Cyfweliad

“Dwi’n obsesed efo Dafydd Iwan,” meddai.

“Fel nathon ni weld yn rhaglen Bronwen Lewis, mae gen i Yma o Hyd di tatŵio ar braich fi so dwi’n lyfio Dafydd Iwan. 

“A dwi’n caru perfformio. Dora microphone o flaen fi a dwi tha mwnci, nai dawnsio,  canu a bob dim. 

“Be oedd yn neud o teimlo’n mwy neis odd gael canu o flaen pobol dwi di neud ffrindiau efo, a nhw’n cal clywad fi’n canu yn iawn, oddo’n rili neis. 

“Dwi di gal lot o feedback gan pobol a di gal fy mhwsho i gystadlu yn yr Eisteddfod blwyddyn yma, a pobol yn gofyn i fi os dwi’n mynd i neud Cân i Gymru. Os oed gen chi gân i fi, nai neud o ia!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.