Nadolig Sobor: ‘Rwy'n teimlo fel fi eto, mae'n deimlad gwych’
Nadolig Sobor: ‘Rwy'n teimlo fel fi eto, mae'n deimlad gwych’
Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod o ddathlu, ac yn aml mae alcohol yn ganolog i lawer o’r partïon. Ond mae criw o ferched sydd wedi dod at ei gilydd mewn dosbarth creu torch yng Nghaerdydd wedi penderfynu cael Nadolig gwahanol eleni.
Yr adeg yma llynedd roedd Kate Thomas yn dal i yfed alcohol.
"Fe wnes i gyrraedd pwynt llynedd lle oeddwn i’n teimlo isel oherwydd effeithiau alcohol, ac wedi dweud wrth fy hun bod angen i mi wneud newid."
Fe wnaeth Kate y penderfyniad i stopio yfed alcohol ym mis Ionawr eleni.
Wythnos nesaf bydd Kate yn dathlu blwyddyn o fod yn sobr.
"Dwi'n teimlo bod gen i hyder yn ôl, hyder oeddwn i wedi colli ers amser hir iawn, ac mae e bellach wedi dod yn ôl, a dwi'n teimlo fel fi eto ... Mae'n deimlad gwych."
Mae Kate yn dweud ei bod hi'n lwcus bod ei theulu a'i ffrindiau yn cefnogi ei phenderfyniad ac mae hi'n gyffrous i dreulio'r Nadolig gyda nhw.
Fe wnaeth Kate fynychu dosbarth creu torch gydag eraill oedd am gael Nadolig heb alcohol.
Gyda chymaint o wahanol opsiynau, a chymaint o dymor yr ŵyl yn cylchdroi o gwmpas alcohol, mae elusennau'n yn dweud fod pobl yn teimlo pwysau i yfed.
Yn ôl Sioned Hughes, o elusen Kaleidoscope, mae’n bwysig bod pobl sobr yn cael cefnogaeth dros dymor y Nadolig.
Dywedodd Sioned: “Mae pawb mewn recovery yn wahanol…i sydd mewn recovery, mae mynd adref a delio gyda theulu yn gallu bod yn rili anodd, ac yn gallu bod yn triggering i rai.
“Ond hefyd, os wyt ti mewn recovery a does ddim gennyt ti deulu neu gefnogaeth, mae hwnna yn gallu bod yn anodd am resymau gwahanol,” meddai Sioned.
Yn ôl arolwg a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn gan elusen alcohol-harm Drinkaware, mae bron i ddwy ran o dair (64%) o yfwyr y DU yn bwriadu yfed mwy o alcohol dros y Nadolig nag y byddent fel arfer ar adegau eraill o'r flwyddyn.
Ond mae Kate yn edrych ymlaen at ei Nadolig sobor cyntaf gyda chwmni ffrindiau a theulu.