Rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru

Rhybudd melyn am eira

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru yn y flwyddyn newydd.

Bydd y rhybudd yn dod i rym o 00:00 a 12:00 ddydd Gwener 2 Ionawr.

Fe allai hyd at 5cm o eira ddisgyn mewn rhai mannau, yn enwedig ar dir uchel yng ngogledd Cymru.

Ond fel arall mae disgwyl tua 2cm o eira mewn sawl rhan o Gymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ffyrdd a rheilffyrdd gael eu heffeithio gan yr eira a rhew, gan arwain at oedi ar wasanaethau trên a bws.

Maen nhw'n rhybuddio pobl i gymryd gofal wrth gerdded a bod risg anafu wrth gerdded ar hyd llwybrau llithrig.

Cyngor y Swyddfa Dywydd yw gwirio cyn teithio rhag ofn bod ffyrdd wedi cau neu fod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wedi canslo.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd isod:

  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Dinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.