Conwy: Heddlu'n ymchwilio wedi pump lladrad mewn un noson
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i pum lladrad ar yr un noson yn sir Conwy.
Dywedodd y llu bod pump "digwyddiad" ar noson 27 Rhagfyr mewn sawl ardal wahanol yn y sir.
Digwyddodd rhain yn Llanrwst, Dinbych ac Abergele.
Credai'r heddlu bod y lladrad cyntaf wedi digwydd yn ardal Gwytherin yn Llanrwst, a'r ail yn Llansannan yn Ninbych.
Fe gafodd tri eiddo eu targedu yn Abergele, sef ardaloedd Llanfair Talhaearn, Minafon a Gwelfor.
Dywedodd yr heddlu bod y lladron wedi torri mewn ambell eiddo trwy dorri ffenest, tra bod drws heb gael ei gloi mewn eiddo arall.
Cafodd gemwaith aur ei ddwyn o un eiddo yn Abergele.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Kris Williams o Heddlu'r Gogledd ei fod yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladradau.
"Rydym yn cydnabod ei fod yn drawmatig yw dioddef lladrad, ac mae tîm o dditectifs wrthi’n cynnal ymholiadau helaeth i’r digwyddiadau ac i adnabod y rhai dan amheuaeth," meddai.
“Rwy’n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu unrhyw luniau teledu cylch cyfyng o ymddygiad amheus yn yr ardaloedd hyn ar 27 Rhagfyr i gysylltu â swyddogion.
“Rwyf hefyd yn gofyn i drigolion fod yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw faniau, ceir neu unigolion amheus yn eich ardal, ac i gadw llygad am gymdogion agored i niwed.
“Byddwn hefyd yn annog pobl i ymweld â gwefan Heddlu Gogledd Cymru, sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor gwerthfawr ar sut i gadw eiddo a phethau gwerthfawr yn ddiogel.
“Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiadau gysylltu â ni drwy ffonio 101, neu drwy ein gwefan.”