Arestio dyn ar amheuaeth o fod ag arf bygythiol yn ei feddiant yng Nghaernarfon
Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o drosedd trefn gyhoeddus a bod ag arf bygythiol yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yng Nghaernarfon yn oriau mân fore ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth swyddogion yr heddlu ymateb i ddigwyddiad ar ystâd Cae Bold y dref am tua 02:00.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd: “Tra bod swyddogion wedi delio â'r digwyddiad, roedd presenoldeb heddlu cynyddol ar y stad a allai fod wedi deffro trigolion.
“Mae’r digwyddiad bellach wedi dod i ben a diolchwn i drigolion lleol am eu cydweithrediad."
Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod:Q191209.