Newyddion S4C

Pennod ola’ Gavin and Stacey yn ‘mynd i synnu pobl sawl gwaith’

Pennod ola’ Gavin and Stacey yn ‘mynd i synnu pobl sawl gwaith’

Bydd gwylwyr selog rhaglen Gavin and Stacey yn cael eu “synnu sawl gwaith” wrth wylio’r bennod ola’ ar Ddydd Nadolig.

Dyna farn Larry Lamb, sy’n actio tad Gavin, wrth iddo sgwrsio gydag S4C cyn darlledu’r rhaglen olaf.

“Mae wedi bod yn adeiladu ers blynyddoedd,” meddai.

“A rywsut neu’i gilydd mae Ruth a James wedi bod yn gweu'r holl edafedd rhydd yma at ei gilydd.

“Yr holl bethau doeddech chi ddim yn gwybod amdanyn nhw neu eisiau eu gwybod.

“Mae’r cyfan yn mynd i ddod at ei gilydd ac mae pawb sydd wedi bod yn gwylio’r rhaglen ers tro byd yn mynd i gael eu synnu sawl gwaith.

“Alla i ddim disgwyl i weld ymateb pobl.”

'Arbennig'

Dywedodd bod ffilmio'r bennod ola’ yn “emosiynol iawn”.

“Roedd pawb yn gwybod mai dyma'r diwedd, o'r eiliad roedden ni i gyd yn darllen y sgript felly roeddech chi'n gwybod eich bod chi'n gweithio ar y diwedd,” meddai.

“Felly po agosaf y cyrhaeddon ni at y diwedd, y mwyaf emosiynol oedd o, achos roedd pawb yn gwybod, yn doedden nhw? 

“Roedden ni’n gwybod ei fod yn adeg arbennig iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.